Cyhuddo tri o ladd llofrudd o Aberystwyth yn y carchar

Kyle BevanFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kyle Bevan ei ddedfrydu i o leiaf 28 mlynedd dan glo yn 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae tri charcharor wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth llofrudd o Aberystwyth yng ngharchar Wakefield.

Bu farw Kyle Bevan, 33, ddydd Mercher.

Cafodd ei ddedfrydu i o leiaf 28 mlynedd dan glo yn 2023 am lofruddio Lola James - merch ddwy oed ei gariad - yn ei chartref yn Hwlffordd.

Dywedodd Heddlu Sir Gorllewin Efrog fore Gwener bod tri charcharor - Mark Fellows, 45, Lee Newell, 56 a David Taylor, 63 - wedi cael eu cyhuddo o lofruddio Bevan.

Fe wnaeth y tri ymddangos trwy gyswllt fideo yn Llys Ynadon Leeds ddydd Gwener, ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn Llys y Goron y ddinas ddydd Llun.