Agor canolfan £100m i geisio 'trawsnewid teithio yn y de'

Roedd y Brenin Charles yn yr agoriad swyddogol ddydd Gwener fel rhan o'i ymweliad â de Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae storfa drenau newydd gwerth £100m wedi agor yn swyddogol yn ne Cymru.
Cafodd cynlluniau ar gyfer y safle yn Ffynnon Taf eu cyhoeddi gan Trafnidiaeth Cymru 'nol yn 2018 ac mae'n cael ei weld fel rhan ganolog o rwydwaith rheilffyrdd Metro De Cymru.
Roedd y Brenin Charles yn yr agoriad swyddogol fore Gwener.
Dywedodd Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru fod yr agoriad swyddogol yn gam "cyffrous" gan awgrymu fod Metro De Cymru yn "trawsnewid y ffordd mae pobl yn teithio yn yr ardal".
Cost adeiladu Metro De Cymru yn codi i £1 biliwn
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2023
Cadarnhau oedi pellach ar gyfer Metro De Cymru
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2022
Mae'r storfa yn Ffynnon Taf yn rhan allweddol o'r hyn sydd wedi cael ei gymharu i fersiwn Trafnidiaeth Cymru o system drenau tanddaearol Llundain.
Dyma fydd y prif ganolfan gyda 36 o drenau tram newydd yn cael eu cadw yno.
Bydd hefyd yn bencadlys i 400 o weithwyr sy'n rhan o griwiau trên, 35 o staff cynnal a chadw cerbydau a 52 o bobl a fydd yn gweithio yn y ganolfan rheoli.
Dechreuodd y gwaith adeiladu ar y safle ym mis Ionawr 2020, ac mae'r costau sydd ynghlwm â chwblhau'r storfa yn rhan o'r dros £1 biliwn sydd wedi ei wario ar y rhwydwaith hyd yma.

Bydd 36 o drenau tram newydd yn cael eu storio ar y safle
Yn ogystal â'r storfa newydd, mae gwaith yn parhau ar y broses o drydaneiddio 170,000km o'r rheilffordd ac uwchraddio gorsafoedd.
Er fod y metro wedi cael ei ddisgrifio fel rhywbeth all fod yn "drawsnewidiol" sy'n teithio rhwng Caerdydd a'r cymoedd - mae'r gwaith adeiladu hefyd wedi achosi trafferthion i deithwyr.
Dywedodd yr arbenigwr trafnidiaeth, yr Athro Emeritws Stuart Cole: "Ro'n i'n byw yn agos i'r brif lein i'r cymoedd yn Nhreganna am gyfnod cyn symud i'r gorllewin, ac roedd yn swnllyd iawn ar adegau.
"Mae rhai rhannau o'r rhwydwaith wedi cau am gyfnodau wrth gynnal y gwaith, ond dwi'n meddwl fod hyn yn boen yn y tymor byr er mwyn elwa yn y tymor hir.
"Fydd y system newydd yn ein galluogi i droi fyny a mynd yn syth, fel y tube yn Llundain.
"Bydd amseroedd teithiau yn lleihau, bydd mwy o drenau a bydd mwy o le i bobl ar y trenau - oedd yn gallu bod yn broblem ar adegau!"

Bydd y system newydd fel y tube yn Llundain, medd yr Athro Stuart Cole
Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, mae gwella trafnidiaeth ar hyd y wlad yn un o'i "prif flaenoriaethau".
"Rydyn ni eisoes yn gweld buddiannau sylweddol yn sgil ein buddsoddiad yn Metro De Cymru.
"Mae gwasanaethau gwell, trenau newydd sbon a system docynnau 'talu wrth fynd' wedi trawsnewid teithio i bobl.
"Mae'n (Storfa Ffynnon Taf) yn rhan o'r seilwaith hanfodol y tu ôl i'r llen fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl yn eu bywydau bob dydd."
Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: "Gyda rheilffyrdd wedi eu trydaneiddio a storfa newydd mae Metro De Cymru yn trawsnewid y ffordd mae pobl yn teithio yn yr ardal.
"Y peth fwyaf pwysig yw ei fod yn cysylltu pobl a chymunedau gyda chyfleon.
"Rydyn ni wedi ein cyffroi gan y syniad o gyflwyno'r trenau-tram newydd y flwyddyn nesaf, wrth i ni barhau i drawsnewid teithio ac annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus."
Beth sy'n digwydd mewn rhannau eraill o Gymru?
Ym mis Mai fe wnaeth yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates gyhoeddi cynllun gwerth £2.1bn i ailwampio rhwydwaith rheilffyrdd gogledd Cymru.
Ond ym mis Hydref fe ddywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth Lloegr, Heidi Alexander AS fod Llywodraeth y DU yn cadw prosiectau trydaneiddio dan adolygiad.
Mae'r cynigion yn cynnwys gwaith ar y lein rhwng Wrecsam a Lerpwl fel cam cyntaf yn y broses o gyflwyno gwasanaeth metro rhwng y ddwy ddinas.
Mae 'na gynnig hefyd i ddyblu nifer y gwasanaethau rhwng Wrecsam a Chaer erbyn Mai y flwyddyn nesaf.
Dyw cynlluniau i wella cysylltiadau yng ngorllewin Cymru ddim wedi eu datblygu ond mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud eu bod am gynyddu nifer a chyflymu'r gwasanaethau rhwng Abertawe, Caerfyrddin ac Aberdaugleddau.
Mae cynigion hefyd i adeiladu gorsafoedd newydd - saith o amgylch Abertawe ac un arall yn Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref

- Cyhoeddwyd5 Hydref

