Martyn Margetson yn dychwelyd i dîm hyfforddi Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr Cymru Craig Bellamy wedi cwblhau ei dîm hyfforddi gyda'r garfan genedlaethol, gan benodi Martyn Margetson yn hyfforddwr gôl-geidwaid.
Dyma ail gyfnod Margetson gyda thîm cenedlaethol y dynion, wedi iddo wneud yr un rôl rhwng 2011 a 2016 yng nghyfnodau Gary Speed a Chris Coleman fel rheolwyr.
Bu'n rhan o'r tîm hyfforddi ar gyfer Euro 2016, cyn gadael i ymuno â thîm cenedlaethol Lloegr.
Fe adawodd y swydd honno yn sgil ymadawiad y rheolwr Gareth Southgate, ac mae'n cymryd lle Tony Roberts yn nhîm hyfforddi Cymru.
- Cyhoeddwyd27 Awst
- Cyhoeddwyd23 Awst
Enillodd Margetson un cap i Gymru fel chwaraewr, a hynny mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Canada yn 2004.
Mae hefyd wedi bod yn hyfforddwr gyda West Ham, Caerdydd, Crystal Palace ac Everton, ac ar hyn o bryd mae hefyd yn rhan o dîm hyfforddi Abertawe.
Mae penodiad Margetson yn cwblhau tîm rheoli Bellamy, wedi i Andrew Crofts, James Rowberry, Piet Cremers a Ryland Morgans gael eu cyhoeddi yr wythnos ddiwethaf.
Bydd Bellamy yn cyhoeddi ei garfan ryngwladol gyntaf ddydd Mercher, cyn y gemau cyntaf wrth y llyw yn erbyn Twrci yng Nghaerdydd ac oddi cartref ym Montenegro fis nesaf.