Symud gêm oddi cartref Cymru ym Montenegro

Stadiwm Cenedlaethol PodgoricaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Stadiwm Cenedlaethol Podgorica yw cartref Montenegro ers eu gêm ryngwladol gyntaf yn 2007

  • Cyhoeddwyd

Bydd lleoliad gêm Cymru oddi cartref ym Montenegro yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn newid oherwydd cyflwr y cae yn Stadiwm Cenedlaethol Podgorica.

Roedd y BBC ar ddeall fod gan UEFA bryderon difrifol ynglŷn â chynnal y gêm yn y brifddinas yn dilyn archwiliad o'r cae ddydd Sul.

O ganlyniad, cadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) brynhawn Mawrth y bydd y gêm ar 9 Medi yn cael ei symud i'r City Stadium yn ninas Nikšić - rhyw awr i ffwrdd o'r lleoliad gwreiddiol.

Roedd adroddiadau yn y cyfryngau ym Montenegro yn awgrymu bod cae Stadiwm Genedlaethol Podgorica yn sych ac wedi treulio mewn mannau, gydag ardaloedd mawr o wair ar goll.

Dywedodd llefarydd ar ran UEFA yn gynharach yn y mis eu bod yn hyderus y gallai'r gêm fynd yn ei blaen yn y lleoliad gwreiddiol.

Ond daeth i'r amlwg brynhawn Mawrth nad dyna'r achos bellach.

'Cyfyngu ar yr anghyfleustra'

Dywedodd CBDC mewn datganiad: "Yn dilyn pryderon am safon y cae chwarae yn Stadiwm Gradski yn Podgorica, mae UEFA wedi cadarnhau y bydd y gêm Cynghrair y Cenhedloedd rhwng Montenegro a Chymru ar 9 Medi yn cael ei symud i Nikšić.

"Bydd y gêm nawr yn cael ei chwarae yn Stadiwm y Ddinas, sy’n gartref i FK Sutjeska ac yn cynnal gemau dan-21 Montenegro yn rheolaidd.

"Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cydnabod yr anghyfleustra y bydd y cyhoeddiad hwn yn ei gael ar gefnogwyr Cymru, sydd eisoes wedi cynllunio ar gyfer Podgorica.

"Felly, mae CBDC ar hyn o bryd mewn trafodaethau gydag UEFA a Chymdeithas Bêl-droed Montenegro i gyfyngu ar yr anghyfleustra a achosir gan y cyhoeddiad hwyr hwn i'r tîm cenedlaethol a’r Wal Goch."

Bydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd ar ddydd Gwener, 6 Medi yn erbyn Twrci yng Nghaerdydd - gêm gyntaf y rheolwr newydd, Craig Bellamy.