Bellamy yn cyhoeddi aelodau newydd tîm hyfforddi Cymru

Andrew CroftsFfynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd Andrew Crofts 29 o weithiau i Gymru yn ystod ei yrfa

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-chwaraewr canol cae Cymru, Andrew Crofts wedi ei gynnwys yn nhîm hyfforddi newydd Craig Bellamy.

Mae Bellamy - a gafodd ei benodi ym mis Gorffennaf - wedi cyhoeddi ei dîm hyfforddi cyn ei gêm gyntaf fel rheolwr yn erbyn Twrci ar 6 Medi.

Fe fydd Crofts, wnaeth chwarae gyda Bellamy i Gymru, wedi bod yn hyfforddi gyda Brighton ers rai blynyddoedd, a bydd yn cyfuno'r swydd honno gyda'i rôl newydd.

Mae James Rowberry, cyn-reolwr Casnewydd sydd wedi bod yn gweithio i Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), hefyd wedi ei benodi yn hyfforddwr cynorthwyol.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae James Rowberry wedi rheoli Casnewydd ac wedi bod yn rhan o dîm hyfforddi Caerdydd yn y gorffennol

Fe gadarnhaodd CBDC fod Piet Cremers, a weithiodd gyda Bellamy yn Burnley, a Ryland Morgans, sydd wedi gweithio gyda sawl clwb yn Uwch Gynghrair Lloegr, hefyd wedi eu penodi yn hyfforddwyr cynorthwyol.

Mae'r BBC ar ddeall fod Bellamy hefyd yn ceisio denu’r hyfforddwr golwyr, Martyn Margetson yn ôl i Gymru wedi iddo dreulio cyfnod yn hyfforddi gyda Lloegr.

Dywed y Gymdeithas y bydd Chris Gunter "yn symud ymlaen i rôl newydd o fewn strwythr CBDC, a fydd yn cael ei gyhoeddi maes o law".

Mae dau arall oedd yn cynorthwyo Rob Page, Alan Knill a Jack Lester, yn gadael eu swyddi.

Gwaith paratoi 'wedi bod yn wych'

Dywedodd Craig Bellamy ei fod yn "hapus iawn" gyda'r penodiadau.

"Rwyf wedi gweithio gyda phob un ohonynt o’r blaen, naill ai fel hyfforddwr neu fel chwaraewr.

"Fel grŵp, rwy’n credu bod y cydbwysedd a’r arbenigeddau amrywiol rhyngom ni mor dda a allwn fod wedi gofyn amdano.

"Mae’r gwaith paratoi ar gyfer y gemau wedi bod yn wych hyd yn hyn, a dydw i methu aros i ni gyfarfod â’r chwaraewyr a dechrau gweithio gyda nhw."

Fe fydd gêm gyntaf Bellamy fel rheolwr yn erbyn Twrci ar 6 Medi yng Nghynghrair y Cenhedloedd, cyn i Gymru deithio i Montenegro ar 9 Medi.