'Roedd yn rhaid i Mam adael ein cartref i achub ei bywyd'

Roedd Dr Gareth Evans-Jones ar gofrestr unigolion risg uchel pan oedd o'n blentyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r awdur Dr Gareth Evans-Jones wedi sôn sut mae profi trais yn y cartref pan oedd yn blentyn yn dal i effeithio arno hyd heddiw.
Dim ond pump oed oedd o pan roedd yn rhaid i'w fam ddianc o'r cartref teuluol oherwydd camdriniaeth ei gŵr.
Roedd yn rhaid i Dr Evans-Jones ei dilyn yn ddiweddarach, a thrwy gydol ei blentyndod roedd o'n cael cymorth gan weithiwr cymdeithasol.
Dywedodd ei fod wedi dioddef o iselder dwys yn sgil ei brofiad, ond ei fod yn ffodus o gael cystal magwraeth gan ei fam.

Mae Dr Gareth Evans-Jones yn ddarlithydd crefydd ac athroniaeth ym Mhrifysgol Bangor
"Mi oedd Dafydd [ei dad] yn dreisgar iawn, iawn tuag at Mam, ac mi oedd o ataf innau i raddau llai," meddai Dr Evans-Jones ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru.
"Trais corfforol yn bennaf ond eto wrth dyfu mae rhywun yn gweld mi roedd 'na drais seicolegol hefo Mam, ac mae'r ffaith bod Mam dal yn gydnerth a dal i fynd rŵan yn dyst i gryfder ei chymeriad hi.
"Mi oedd o'n fater ohoni'n gorfod gadael - ac nid gor-ddweud ydw i - i achub ei bywyd.
"Mi ydw i'n cofio dwy adeg yn benodol pan na'th o bron iawn ei lladd hi, ac nid gor-ddweud ydi hynny.
"Mi fu rhaid iddi adael a fy ngadael i yno i achub ei bywyd. Ond yn fuan wedyn mi nesh innau fedru gadael."
Problemau iechyd meddwl
Am gyfnod roedd Dr Evans-Jones, sy'n darlithio ym Mhrifysgol Bangor ac yn gyn-enillydd y Fedal Ddrama, yn cael ei fagu rhwng y ddwy aelwyd ar Ynys Môn.
Ond dywedodd nad oedd posib parhau gyda'r trefniant oherwydd ymddygiad ei dad, ac wedi hynny fe gafodd ei fagu gan ei fam yn unig.
Dywedodd ei fod bellach yn sylweddoli mai problemau iechyd meddwl oedd wrth wraidd trais ei dad, fu farw yn 2019.
Fyddai hynny ddim wedi cael ei gydnabod o fewn y byd amaethyddol ar y pryd yn yr 1990au, meddai, ac ychwanegodd bod agweddau tuag at drais yn y cartref hefyd yn wahanol yn ystod y cyfnod.
"Dwi'n gwybod mi roedd yna rai yn gweld bai ar Mam, ma' raid bod Mam 'di neud rhywbeth, ma' raid bod hi di bod yn rhyw fath o Jezebel neu rywbeth," eglurodd.
"Ond dim tan ryw tua 20 mlynedd wedyn mi fuodd pobl yn mynd at Mam ac yn dweud 'wel mae'n ddrwg gennon ni bod ni ddim falle wedi coelio chi neu doedda ni ddim yn dymuno coelio bod Dafydd yn gallu gwneud y fath beth'.
"Mae 'na gymaint o elfennau a chymhlethdodau lu."

Dr Evans-Jones yn ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Llanrwst yn 2019, yn fuan wedi marwolaeth ei dad
Roedd yr academydd ar gofrestr unigolion risg uchel pan yn blentyn, ac yn cael cyfarfodydd wythnosol yn yr ysgol gyda gweithiwr cymdeithasol.
Mae'n dweud bod digwyddiadau ei blentyndod wedi ei greithio mewn sawl ffordd, gan gynnwys ceisio osgoi gwneud pethau oedd yn ei atgoffa o'i dad.
"A'r elfen o ddiffyg hyder, a be' ddaeth maes o law yn enwedig yn fy arddegau oedd y pyliau, cyfnodau o iselder ac iselder go ddwys hefyd," meddai.
"Felly mae'n debyg fod y cyfnod cynnar iawn hwnnw yn sicr yn dal i fwydo hyd yn oed heddiw."
Mae Dr Evans-Jones bellach yn darlithio mewn crefydd ac athroniaeth ac yn llenor.
Fe enillodd o'r Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 2019 a'r Eisteddfod AmGen yn 2021.
Mae'n diolch i'w fam am gael y cryfder i'w fagu ar ei phen ei hun dros y blynyddoedd.
Meddai: "Roedd hi'n fam sengl, yn rheoli maes carafan a hefyd yn gorfod ymgodymu efo'r hyn oedd wedi digwydd yn ystod y pump i chwe blynedd ers i fi gael fy ngeni.
"Y rhyfeddod yna tuag at gryfder person ac yn sicr yn achos Mam, y fath gryfder a faswn i ddim run un heb y fath nerth yn fy nghynnal i."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Gallwch wrando ar Beti a'i Phobol am 18:00 dydd Sul neu ar BBC Sounds.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol:
- Cyhoeddwyd7 Ionawr
- Cyhoeddwyd4 Mai