Prifysgol Caerdydd i dorri 148 yn llai o swyddi na'r disgwyl

- Cyhoeddwyd
Mae nifer y swyddi sydd angen torri ym Mhrifysgol Caerdydd wedi gostwng i 138, yn ôl yr is-ganghellor.
Roedd y targed gwreiddiol o 400 eisoes wedi cael ei leihau fis diwethaf i 286.
Dywedodd yr Athro Wendy Larner y bu hi'n bosib gostwng y cyfanswm yn sgil newidiadau i gynlluniau ar gyfer adrannau academaidd, a'r ffaith bod 133 o staff yn gadael y sefydliad yn wirfoddol.
Fe fydd cynlluniau terfynol yn cael eu cymeradwyo gan gyngor y brifysgol ar 17 Mehefin.
- Cyhoeddwyd22 Ebrill
- Cyhoeddwyd11 Ebrill
Ddechrau mis Mai, dywedodd y brifysgol na fyddai unrhyw ddiswyddiadau gorfodol yn digwydd yn y flwyddyn 2025 fel rhan o gytundeb gyda undeb yr UCU a gytunodd i ganslo gweithredu diwydiannol.
Mewn cylchlythyr i staff, fe gadarnhaodd yr Is-Ganghellor Wendy Larner y byddai'r brifysgol yn parhau i gynnig nyrsio ar ôl i'r cynlluniau gwreiddiol argymell cau'r adran.
Dywedodd bod swyddi staff yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, yr Ysgol Feddygaeth, yr Ysgol y Biowyddorau ac Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ddim bellach dan fygythiad.
Roedd hi'n bosib tynnu'r swyddi yma allan o'r nifer dan fygythiad oherwydd nifer y staff oedd yn gadael yn wirfoddol ac am fod cynigion amgen wedi eu derbyn ar gyfer dyfodol rhai o'r pynciau, meddai.

"Mae tynnu'r ysgolion hyn allan o sgôp diswyddo yn golygu bod nifer y staff yn y pwll 'dan fygythiad' bellach wedi gostwng i 650," meddai'r Athro Larner.
Roedd staffio ar gyfer campws newydd yn Kazakhstan hefyd wedi arwain at ostyngiad o 34 i'r targed ar gyfer torri swyddi, ychwanegodd.
Dywedodd yr Is-ganghellor fod y brifysgol yn dal i weithio drwy gynigion amgen ar gyfer dyfodol rhai pynciau lle'r bwriad ar hyn o bryd yw eu cau.