Galwad ar i gyn is-bostfeistri gael iawndal erbyn diwedd Mawrth

Fe gollodd Mr Bates a'i wraig eu buddsoddiad ar ôl i'w gytundeb gyda Swyddfa'r Post ddod i ben heb esboniad yn 2003
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn is-bostfeistr a'r ymgyrchydd Syr Alan Bates yn galw ar Lywodraeth y DU i ad-dalu'r cannoedd o bobl a gafodd eu dedfrydu ar gam, yn sgil sgandal Horizon, erbyn 25 Mawrth.
Mewn neges at is-bostfeistri eraill a oedd yn rhan o'r Group Litigation Order (GLO), dywedodd Syr Alan ei fod yn poeni fod pobl hŷn yn setlo yr hyn sy'n ddyledus iddyn nhw'n gynt "er mwyn dod â'r cyfan i ben".
Mae'n cwestiynu a yw'r llywodraeth yn oedi "fel bod dioddefwyr yn blino" ac a yw cyfreithwyr yn elwa drwy wneud llawer o arian am ychydig o waith.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU y byddai gweinidogion yn parhau i gwrdd â'r rheiny sydd wedi cael eu heffeithio er mwyn iddyn nhw "gael yr arian yn sydyn ac yn deg".
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2024
Rhwng 1999 a 2015 cafodd mwy na 900 o is-bostfeistri eu dedfrydu ar gam wedi i broblemau technegol cwmni Horizon nodi fod arian ar goll o ganghennau Swyddfa'r Post.
Fe wnaeth y sgandal effeithio ar nifer o Gymry - yn eu plith Noel Thomas a rannodd ei brofiad â BBC Cymru.
Syr Alan Bates, a oedd yn gweithio yn swyddfa'r post yn ardal Craig-y-Don, Llandudno, sy'n arwain yr ymgyrch am gyfiawnder i'r is-bostfeistri - ymgyrch sy'n mynnu iawndal ariannol teg i'r 555 o ddioddefwyr a oedd yn rhan o'r achos cyfreithiol.
Mae costau cyfreithiol uchel wedi effeithio ar gyfanswm terfynol eu hiawndal.

Fe gipiodd y ddrama 'Mr Bates v The Post Office' dair gwobr yng ngwobrau'r National Television Awards yn Llundain yn ddiweddar
Mae'r llywodraeth wedi cyflwyno cronfa iawndal benodol er mwyn rhoi yr un faint o iawndal i bob un o'r cyn is-bostfeistri ond mae'r broses wedi ei disgrifio fel un araf.
Roedd gan 63 o'r cannoedd o bobl sy'n rhan o'r grŵp GLO euogfarnau troseddol ac o ganlyniad ddim yn gymwys i arian o'r gronfa iawndal. Er hyn, yn ddibynnol ar eu heuogfarnau, mae'n bosib eu bod yn gymwys i iawndal gwahanol.
Yn ôl ffigyrau diweddar gan Lywodraeth y DU, mae 201 o'r 492 sy’n rhan o'r GLO ac yn gymwys eisoes wedi derbyn taliad llawn.