Edrych ymlaen at opera gyntaf Caryl Parry Jones

Ffion Emyr, Rhian Lois, Caryl Parry Jones
Disgrifiad o’r llun,

Bu Rhian Lois a Caryl Parry Jones yn sgwrsio gyda Ffion Emyr ar faes yr Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd

Rydym wedi arfer clywed ei chlasuron pop ar lwyfannau'r Eisteddfod, ond eleni bydd cyfle i fwynhau cerddoriaeth wahanol iawn o waith Caryl Parry Jones.

Opera i un ddynes yw Lydia, Merch y Cwilt ac fe’i chyfansoddwyd yn wreiddiol ar gyfer Eisteddfod Tregaron 2020. Oherwydd y pandemig, doedd dim modd ei pherfformio bryd hynny ond mae ardal Ceredigion yn ganolog i'r stori o hyd.

Ar raglen O'r Maes, Radio Cymru ddydd Llun, bu Ffion Emyr yn clywed mwy am y cynhyrchiad newydd gan Caryl a'r gantores Rhian Lois.

“Fe es i a Non Parry, wnaeth lunio’r stori gyda mi, i Sain Ffagan un bore i wneud ymchwil. Fe welon ni’r cwilt yma yn yr arddangosfa, a fe ddaeth y delweddau a’r stori o hynny.

“Fe wnaethon ni greu stori am y ferch yma oedd wedi creu cwilt. Yn y stori, ryda ni wedi mynd i'r afael ar sut fyddai’r cyfnod yna ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Y rhagfarnau, problemau a’r pethau ofnadwy oedd yn digwydd i ferched – a sydd dal yn digwydd. Mae yna lot o bethau sydd heb newid o gwbl.”

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Non Parry o'r grŵp Eden, a chyfnither i Caryl, helpu gyda'r stori

Dyma’r tro cyntaf i Caryl – un o gyfansoddwyr caneuon poblogaidd amlycaf Cymru - fentro i fyd opera.

“Roeddwn i'n benderfynol o fynd tu hwnt i beth dwi’n arfer ei wneud. Fe wnes i arbrofi – mae ambell gân yn werinol, ambell un gydag arlliw Sioe Cerdd. Ond yn gyffredinol mae wedi fy ngwthio."

Rhian Lois fydd yn perfformio’r opera, ac wedi’r holl aros dyw hi methu aros i gamu ar y llwyfan.

“Ni gyd wedi bod yn edrych ymlaen at y foment yma ers blynyddoedd maith. Pe bai rhywun wedi dweud wrtha’i yn blentyn y byddai Caryl Parry Jones yn ysgrifennu opera ar fy nghyfer, bydden i byth yn credu.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rhian Lois, sy'n serennu yn yr opera, yn cyflwyno rhaglen Swyn y Sul ar Radio Cymru

“Mae hi wir yn sioe gwbl arbennig. Mae’r gerddoriaeth yn wych a’r geiriau yn ddirdynnol.”

Dyma’r tro cyntaf i Rhian berfformio opera un person, ac mae cryn dipyn o waith dysgu a pharatoi wedi bod.

Ffynhonnell y llun, Caryl Parry Jones
Disgrifiad o’r llun,

Rhian yn ystod yr ymarferion

“Beth sydd mor arbennig am hwn yw fod Caryl wedi ei ysgrifennu, ac mae cael ei chanu yn Gymraeg yn meddwl cymaint. Mae deunaw o ganeuon – galli gredu faint o waith dysgu sydd!

“Mae gallu uniaethu gyda chymeriad Lydia yn arbennig. Wrth ddarllen y sgript roeddwn i'n gallu gweld cymeriadau’r ardal yma’n fyw. Mae stori Lydia yn eithaf torcalonnus – dwi wedi gorfod mynd i bob pegwn emosiynol posib.”

Disgrifiad o’r llun,

Caryl Parry Jones yn ei chynefin... o flaen piano!

Bydd perfformiad Lydia, Merch y Cwilt ym mhabell Encore nos Fercher 7 Awst am 20:00.