Clustnodi 71 o dafarndai i'w gwarchod yng Nghaerdydd

Tafarn yr HalfwayFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae tafarn yr Halfway ym Mhontcanna yn un o'r lleoliadau fydd yn cael ei ystyried

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Caerdydd wedi clustnodi degau o dafarndai, clybiau a lleoliadau cymdeithasol fel mannau i'w cynnwys ar restr treftadaeth leol y ddinas.

Nod y rhestr treftadaeth yw gwarchod adeiladau hanesyddol a chydnabod eu cyfraniad i ddiwylliant a natur weledol y ddinas.

Mae 71 o leoliadau o wahanol ardaloedd o'r brif ddinas wedi eu clustnodi, dolen allanol, gan gynnwys Yr Halfway, Y Cornwall, Y Lansdowne, Y Clive a'r Four Elms.

Yn ôl Dan De'Ath, yr aelod o gabinet y cyngor sy'n gyfrifol am gynllunio strategol, mae'r cynnig yn rhan o ymdrech i "warchod a dathlu adeiladau lleol fel tafarndai... yn enwedig y rhai sy'n gyfoethog o ran hanes dosbarth gweithiol y ddinas".

Mae tua 200 o adeiladau eisoes wedi eu cynnwys ar restr treftadaeth y ddinas, a gafodd ei lunio ym 1997.

Mae modd gweld y rhestr lawn o'r 71 o leoliadau sy'n cael eu cynnig yma, dolen allanol.

Mae'r cyngor wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar yr ychwanegiadau, a bydd gan bobl tan 18 Medi i ymateb i'r cynigion.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Tafarn y Lansdowne yn ardal Treganna

Disgrifiad o’r llun,

Tafarn yr Heath ar Heol yr Eglwys Newydd

Dyw adeiladau ddim yn gallu cael eu cynnwys ar y rhestr leol os ydyn nhw eisoes ar restr statudol Cadw, neu os ydyn nhw wedi eu gwarchod o ganlyniad i fod mewn ardal gadwraeth.

Yn sgil hynny, mae llawer o dafarndai yng Nghaerdydd eisoes wedi eu gwarchod rhag newid neu ddymchwel.

Mae Cyngor Caerdydd wedi cael ei feirniadu yn y gorffennol yn sgil pryder bod y ddinas yn cael ei "or-ddatblygu", ond maen nhw'n dweud y bydd rhestru lleol yn golygu y bydd ceisiadau cynllunio yn y dyfodol yn gorfod cyd-fynd â safonau penodol.

Mae'r cyngor yn nodi y bydd rhaid i geisiadau sicrhau eu bod yn "cadw neu'n gwella" ansawdd pensaernïol, arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol, cymeriad, uniondeb a/neu leoliad pob adeilad.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Tafarn y Four Elms yn y Rhath

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Gwesty'r Albany yn ardal Cathays

Ychwanegodd y cynghorydd De'Ath: "Mae angen diwygio'r rhestr i gynnwys ychwanegiadau newydd a rhoi rheolaethau ar waith dros newid neu ddymchwel lle bo hynny'n bosibl.

"Rydym eisoes wedi cymryd camau i ddiogelu rhai adeiladau pwysig yn y ddinas, gan gyflwyno cyfarwyddiadau Erthygl 4 ar dafarn y Rompney Castle a Neuadd Stacey, ar y sail y byddai datblygiad yn arwain at golli adeiladau hanesyddol.

"Bydd adolygu'r Rhestr Leol ac ychwanegu adeiladau ato yn ein galluogi i gyflwyno cyfarwyddiadau Erthygl 4 ar yr adeiladau hynny os bydd angen.

£Bydd hyn yn helpu i ddod â dymchwel yn ôl o dan reolaeth yr adran gynllunio ac atal dymchwel heb roi caniatâd cynllunio llawn.

"Nid yw'n datrys pob sefyllfa, fel y gwelsom gyda Chilgant Guildford lle cafodd ffryntiad y stryd ei ddymchwel - er y bydd hwnnw'n cael ei adfer gan y datblygwr - ond gall weithredu i roi stop ar ddymchwel wrth i ni ymchwilio i ffyrdd y gellir cadw adeiladau, fel agweddau ar adeiladau sy'n bwysig i'n cymuned."

Disgrifiad o’r llun,

Y Birchgrove Inn