Y cwmni o Gymru sy'n gobeithio trawsnewid ein dulliau o dalu
- Cyhoeddwyd
Yn ôl ffigyrau diweddar mae tua 106,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda nam ar eu golwg - boed hynny'n gyflyrau ar y llygaid, yn rhannol ddall, neu'n gwbl ddall.
I'r bobl yma mae ambell agwedd o fywyd yn gallu bod yn heriol iawn - pethau y byddai llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiataol.
Mae un cwmni technolegol o Gymru'n ceisio datrys rhai o'r heriau yn y byd ariannol - i bobl ddall, pobl hŷn neu unigolion sydd ag anableddau eraill - sef y broses o wneud taliadau. TALU Card o Ben-y-bont ar Ogwr sydd tu ôl i'r fenter.
Samantha Morgan yw cyfarwyddwr masnachol Talu:
“Pwrpas y prosiect yw creu dulliau newydd arloesol a chynhwysol i bobl dalu; i’r unigolyn ac i sefydliadau ariannol fel banciau."
Mae Talu yn ceisio cynnig datrysiadau drwy wasanaethau newydd i'r cerdyn banc a'r ap.
“Ar hyn o bryd mae’r rhan fwya' o daliadau’n cael eu gwneud efo cardiau neu drwy ddefnyddio’r ffôn," meddai Samantha.
"Gyda’r boblogaeth yn heneiddio mae hwylustra technoleg yn gallu bod yn heriol i rai pobl, a tydi pawb ddim â’r un cyfleoedd i dalu yn yr un ffyrdd.
“Beth mae cerdyn 'Talu card' yn ei wneud ydy cynnig ffordd biometreg o dalu, sef Talu Touch.
"Mae’r cerdyn yma’n defnyddio TGM (Tactile Guidance Markers) sy’n ei gwneud hi’n haws i bobl hŷn neu efallai rhai sydd methu gweld yn dda i roi eu bys ar y sensor sydd ar y cerdyn. Golygai hyn fod y cerdyn wedi ei bersonoli iddyn nhw, ac iddyn nhw yn unig.
"Mae gan y cardiau hefyd marciau braille ar gyfer defnyddwyr dall."
'Cadw annibyniaeth'
Mae Samantha'n credu y bydd y dulliau yma'n caniatáu i'r unigolion fyw bywyd pob dydd yn haws.
“Mae hyn yn gadael i’r defnyddiwr gadw ei annibyniaeth, ond hefyd mae’r dull biometreg o ddarllen olion bysedd yn gwneud cario’r cardiau yma’n fwy diogel gan fod eraill yn methu eu defnyddio.
"Bydd ddim angen cofio rhif PIN ar gyfer y cardiau, sydd yn help i bobl sy’n cael problemau â’r cof, a bydd dim uchafswm o ran faint sy'n bosib ei dalu – sy’n gallu bod yn achos o bryder i rai pobl.
“Ar ben hyn rydyn ni’n cynnig Visual Impaired Access (VIA), sy’n golygu pan fydd rhywun dall yn gwneud taliadau gan ddefnyddio Talu touch, mi fydd ‘na neges glywedol yn cael ei yrru i’r defnyddiwr drwy’r ffôn, ac mi fydd ffôn yn dirgrynu.”
Mae’r cwmni ar fin mynd mewn i gyfnod o arbrofi masnachol i weld beth yw cryfderau a gwendidau'r dechnoleg, gan rannu 1,000 o gardiau arbrofol. Esbonia Samantha:
“Rydyn ni am roi ychydig o arian ar y cardiau yma a’u dosbarthu i wahanol bobl, fel Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall a sefydliadau eraill. Y pwrpas ydy i brofi sut mae’r cardiau’n gweithio’n ymarferol, a ry’n ni'n gobeithio gwneud hyn yn y dyfodol agos."
Lledaenu'r gwasanaeth
Dywed Samantha ei bod hi am weld y banciau mawr yn defnyddio'r dechnoleg yma o Gymru.
“Ongl arall rydyn ni’n gweithio arno yw i sefydliadau ariannol fel banciau gymryd y dechnoleg yma ymlaen fel rhan o’u gwasanaeth.
“Allwn ni gynnig bod nhw’n defnyddio datrysiadau Talu drwy API (Application Programming Interface), sef meddalwedd cyfrifiadurol sy’n galluogi’r defnyddiwr gael mynediad i’r gwasanaeth.
"Bydd y cwsmeriaid yn cael y cyfle i gael yr hyn mae Talu yn ei gynnig, ond ni fydd yn effeithio ar wasanaethau arferol y sefydliadau hyn.
"Bydd y dechnoleg yma o fendith i’r defnyddwyr a hefyd y sefydliadau, sy’n gallu defnyddio'r dechnoleg fel rhan o’u cwmni, neu drwy ddefnyddio ein brand ni."
Mae elfennau o’r prosiect sy'n batent dan ystyriaeth, ac mae'r cwmni'n gobeithio y bydd cyhoeddiad ar hyn yn y dyfodol agos.
Unwaith bydd y dechnoleg wedi ei brofi yn Y Deyrnas Unedig, y gobaith ydy i ledaenu'r busnes i Ewrop, yr Unol Daleithiau a mannau eraill.
“Y gobaith yw y bydd y dechnoleg yma’n dod â sylw i Gymru, a bod yr enw Cymraeg yn creu argraff."
Pwy a ŵyr, rhyw ddydd fydd pobl ledled y byd yn talu wrth dalu...
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd2 Mehefin
- Cyhoeddwyd8 Ebrill
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2023