Cymru'n disgyn fwy na neb yn rhestr detholion y byd

Cymru v ArmeniaFfynhonnell y llun, Rex Features
  • Cyhoeddwyd

Mae tîm pêl-droed Cymru wedi disgyn fwy nag unrhyw wlad arall yn rhestr detholion y byd FIFA, yn dilyn canlyniadau siomedig fis Mehefin.

Bellach mae tîm Rob Page yn 35ain yn y byd, gan ddisgyn naw safle, ac maen nhw nawr yn is na gwledydd Ewropeaidd eraill fel Yr Alban, Awstria ac Wcrain.

Daw hynny wedi iddyn nhw golli ddwywaith yn eu gemau rhagbrofol diweddar ar gyfer Euro 2024, gartref yn erbyn Armenia ac yna oddi cartref yn Nhwrci.

Dyma safle isaf Cymru yn rhestr detholion y byd ers mis Mawrth 2015, pan oedden nhw'n 37ain.

Mae'r ddwy golled yn golygu bod gobeithion Cymru o orffen yn y ddau safle uchaf yn eu grŵp i gyrraedd Euro 2024 yn brin iawn bellach - ond maen nhw'n debygol iawn o gael lle yn y gemau ail gyfle.

Dyw rhestr detholion y byd FIFA ddim yn dylanwadu ar ymgyrch ragbrofol Euro 2024, na chwaith ar ffawd Cymru os ydyn nhw'n llwyddo i gyrraedd y twrnament yn Yr Almaen y flwyddyn nesaf.

Ond mae'n debygol o gael ei ddefnyddio i ddewis detholion ar gyfer grwpiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026.

Gyda Chymru'n 18fed ymhlith timau Ewrop ar hyn o bryd, byddai hynny yn eu rhoi nhw ymhlith yr ail ddetholion.