Ceidwadwyr wedi gwrthod hyfforddiant ar aflonyddu rhywiol

Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Andrew RT Davies oedd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd ar y pryd

  • Cyhoeddwyd

Y Ceidwadwyr oedd yr unig grŵp yn y Senedd i wrthod cynnig i gael hyfforddiant ar atal trais ar sail rhywedd ac aflonyddu rhywiol.

Andrew RT Davies oedd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd ar y pryd, a dywedodd llefarydd ar ei ran mai mater "i ddisgresiwn yr unigolyn" oedd manteisio ar gyfleoedd hyfforddi.

Dywedodd llefarydd ar ran yr arweinydd presennol, Darren Millar, fod y blaid "yn cymryd trais ar sail rhywedd yn ddifrifol iawn" a bod sesiwn ar gyfer aelodau'r grŵp bellach yn "cael ei threfnu".

Roedd cynnal yr hyfforddiant yn argymhelliad gan bwyllgor cydraddoldeb trawsbleidiol y Senedd.

'Arweinyddiaeth, braint a grym'

Y llynedd, cyhoeddodd pwyllgor cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol y Senedd adroddiad o'r enw "Sut y mae'n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan: dull iechyd y cyhoedd o atal yr epidemig mewn trais ar sail rhywedd".

Un o'i argymhellion oedd galw ar Aelodau o'r Senedd i ymrwymo i gynnal hyfforddiant ar atal trais ar sail rhywedd erbyn diwedd 2024.

Cytunodd Comisiwn y Senedd – sy'n rhedeg y sefydliad o ddydd i ddydd – i drefnu'r hyfforddiant gan sefydliad allanol yn nhymor yr hydref 2024, gan ymdrin yn benodol â thri maes a amlygwyd gan y pwyllgor, sef:

  • rhagor o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o beth yw trais ar sail rhywedd;

  • sgiliau ymyrryd gwell gan wylwyr, sy'n rhoi'r sgiliau i unigolion adnabod arwyddion o sefyllfaoedd trais ar sail rhywedd posibl ac i ymyrryd yn ddiogel ac yn effeithiol; a

  • chymhwysedd diwylliannol: deall cymhlethdodau mynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd o fewn cyd-destunau diwylliannol amrywiol.

trais ar sail rhyweddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae "cysylltiad cryf a chyson rhwng anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a thrais yn erbyn menywod" meddai'r pwyllgor

Roedd y cwrs a ddatblygwyd gan gwmni o Fryste, Kindling Intervention, ar ran Comisiwn y Senedd wedi "cael ei ddatblygu a'i deilwra'n benodol i ganolbwyntio ar sylwi ac ymyrryd mewn rhywiaeth, stereoteipio ar sail rhyw, micro-ymosodedd ar sail rhywedd, aflonyddu rhywiol a mathau eraill o drais ar sail rhywedd yn erbyn menywod a merched".

"Oherwydd bod y cyfranogwyr yn rhai sydd ar lefel uwch arweinyddiaeth, bydd yr hyfforddiant hefyd yn cael ei ddatblygu ymhellach yn benodol i ganolbwyntio ar arweinyddiaeth, braint a grym."

Manteisiodd 22 o aelodau o'r grwpiau Llafur a Phlaid Cymru ar y cynnig hyfforddi, sef 52% o'r ddau grŵp a 37% o'r 60 aelod.

Jenny Rathbone
Disgrifiad o’r llun,

Mae cadeirydd y pwyllgor cydraddoldeb Jenny Rathbone wedi dweud bod "epidemig mewn trais ar sail rhywedd"

Dywedodd prif weithredwr y Senedd, Manon Antoniazzi, mewn llythyr at gadeirydd y pwyllgor cydraddoldeb Jenny Rathbone bod gan eu tîm dysgu ac ymgysylltu aelodau "brofiad helaeth o weithio gyda grwpiau plaid i ddarparu hyfforddiant i aelodau ac maent yn cydnabod eu bod yn ffafrio hyfforddiant o fewn y grwpiau hynny ar bynciau o sensitifrwydd arbennig, fel hyn."

"Mae trefnu amser ar gyfer hyfforddiant i aelodau hefyd yn her ac felly gofynnir am ymrwymiad grwpiau plaid bod cynifer o aelodau â phosib yn gallu bod yn bresennol yn yr hyfforddiant a gynigir."

Ychwanegodd, serch hynny, "ar ôl cysylltu â'r holl grwpiau plaid, manteisiodd dau grŵp plaid ar y cyfle i fynd ar yr hyfforddiant hwn yn nhymor yr hydref 2024".

"Yn anffodus, nid oedd y trydydd grŵp plaid yn gallu neilltuo amser/capasiti ar gyfer y pwnc hwn."

'Difrifol iawn'

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig wrth y BBC: "Mae grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd yn cymryd trais ar sail rhywedd yn ddifrifol iawn.

"Rydym yn cynnal sesiynau hyfforddi a datblygiad proffesiynol parhaus yn rheolaidd ar ystod o faterion, ac mae sesiwn ar gyfer aelodau'r grŵp ar drais ar sail rhywedd yn cael ei threfnu."

Dywedodd llefarydd ar ran y cyn-arweinydd Andrew RT Davies: "Mae aelodau a staff yn cael cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi.

"O dan arweiniad Andrew, yr unigolyn oedd yn gyfrifol am benderfynu a oedd yn dewis manteisio ar y cyfleoedd hyfforddi hynny ai peidio."

'Un o bob tair menyw yn dioddef'

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor cydraddoldeb, yr Aelod o'r Senedd Llafur Jenny Rathbone, ar adeg cyhoeddi'r adroddiad fod "dwy fenyw yr wythnos yn cael eu lladd gan bartner cyfredol neu gyn-bartner yng Nghymru a Lloegr".

"Bydd un o bob tair menyw yn dioddef cam-drin domestig yn ystod ei hoes.

"Oherwydd diffyg adrodd, mae'n debygol bod y ffigurau swyddogol yn tanamcangyfrif gwir faint y broblem warthus hon.

"Mae pob un sy'n dioddef yn yr epidemig hwn yn un yn ormod.

"I roi diwedd arno, rhaid inni i gyd chwarae ein rhan – yn enwedig dynion a bechgyn – drwy fynd i'r afael â'r gwir achosion."

Pynciau cysylltiedig