Cyfnewidfa fysiau newydd Caerdydd yn agor ei drysau

Disgrifiad,

Fe gafodd Cymru Fyw gipolwg ar yr orsaf newydd yn gynharach yr wythnos hon

  • Cyhoeddwyd

Mae cyfnewidfa fysiau newydd Caerdydd yn agor ei drysau fore Sul a hynny naw mlynedd ers dymchwel hen gyfnewidfa'r brifddinas.

Ers 2015, bu'n rhaid i deithwyr ddefnyddio safleoedd bws sydd wedi'u gwasgaru ar hyd canol y ddinas.

Roedd y safle i fod i agor yn 2017 ond fe wnaeth sawl her darfu ar y cynlluniau, gan gynnwys y pandemig.

Mae'r gyfnewidfa wedi'i lleoli gyferbyn â gorsaf Caerdydd Canolog.

Mae ganddi 14 o safleoedd bws, tai bach cyhoeddus, a phedair uned ar gyfer siopau.

Trafnidiaeth Cymru (TC) sy'n rheoli'r safle, ac mae'r corff yn gobeithio y bydd yn gwella cysylltiadau fel rhan o ddatblygiad Metro De Cymru.

Bydd 25 gwasanaeth yn mynd a dod o'r safle bob awr.

Y gobaith ydy cyrraedd 60 gwasanaeth yr awr erbyn diwedd y flwyddyn.

Pa wasanaethau fydd yn defnyddio'r gyfnewidfa?

Disgrifiad o’r llun,

Mae 14 safle bws y tu fewn i'r gyfnewidfa

Bydd y gyfnewidfa yn gartref i sawl un o wasanaethau Bws Caerdydd o ddydd Sul.

Dyma restr o'r gwasanaethau hynny:

  • 13 Canol y ddinas - Trelai - Y Ddrôp

  • 25 Canol y ddinas - Llandaf - Yr Eglwys Newydd

  • 32 Canol y ddinas - Treganna - Sain Ffagan

  • 61 Canol y ddinas - Y Tyllgoed - Pentrebaen

  • 62 a 63 Canol y ddinas - Llandaf - Rhydlafar (62) neu Radur (63)

  • 92, 93 a 94 Caerdydd - Penarth - Dinas Powys (93) neu Sili (94) - Y Barri

  • 95 Caerdydd - Llandochau - Dinas Powys - Y Barri

  • 96 Caerdydd - Y Barri

Mae manylion llawn am deithiau Bws Caerdydd i'w cael yma, dolen allanol.

Y bwriad yw i wasanaethau Bws Casnewydd a Stagecoach ddefnyddio'r gyfnewidfa yn ddiweddarach eleni, medd Trafnidiaeth Cymru.

Ni fydd teithiau i rannau eraill o'r DU gyda chwmnïau fel National Express a Megabus yn defnyddio'r gyfnewidfa.

Beth sydd y tu fewn i'r orsaf?

Disgrifiad o’r llun,

Cipolwg y tu fewn i'r orsaf newydd

Mae'r orsaf yn ffordd "modern, glân a diogel" i deithwyr ddal y bws, medd Trafnidiaeth Cymru.

Mae sgriniau y tu fewn i'r gyfnewidfa'n cynnig gwybodaeth am deithiau o'r orsaf drenau gerllaw.

Bydd staff wrth law er mwyn helpu teithwyr i ddod o hyd i'r bws cywir.

Mae tai bach cyhoeddus a meinciau, a phedair uned ar gyfer siopau.

Mewn ymgais i wneud y gyfnewidfa yn fwy hygyrch, mae palmant botymog yn cysylltu'r bysiau â'r tai bach.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd gwybodaeth am deithiau o'r orsaf drenau gerllaw hefyd ar gael yn y gyfnewidfa fysiau

Dywed Marie Daly, prif swyddog cwsmeriaid diwylliant Trafnidiaeth Cymru, bod y corff yn "gweithio fel un tîm ar hyd y rheilffyrdd a bysiau er mwyn cynnig profiad di-dor i gwsmeriaid".

"Mi fyddai hi wedi bod yn wych gweld yr orsaf yn agor ynghynt, ond yr hyn ry'n ni'n canolbwyntio arno ydy pa mor wych yw'r gyfnewidfa."

Pam dymchwel yr hen safle?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hen gyfnewidfa fysiau Caerdydd ym 1966

Cafodd hen orsaf fysiau Caerdydd ei hadeiladu yn y 1950au.

Erbyn y 2010au, wedi i ganolfan siopa Dewi Sant gael ei hadeiladu, roedd cynlluniau i'r orsaf ac ardal ehangach y Sgwâr Canolog gael eu hailddatblygu.

Dechreuodd y gwaith o ddymchwel yr orsaf fysiau yn 2015.

Cafodd sawl adeilad a oedd yn dal swyddfeydd a hen faes parcio eu dymchwel hefyd.

Cafodd cynlluniau ar gyfer y gyfnewidfa newydd eu cymeradwyo yn 2018.

Yn y cyfamser, cafodd nifer o adeiladau ar gyfer swyddfeydd eu codi yn y Sgwâr Canolog.

Fe wnaeth BBC Cymru symud mewn i un o'r adeiladau, ar safle'r hen orsaf fysiau, yn 2020.

Beth yw barn y teithwyr?

"'Dw i'n meddwl ei fod e'n beth da," medd un teithiwr Tracey Roberts.

"Fydd e bendant yn gwella pethau, bod gan bobl rhywle i fynd er mwyn dal y bws.

"Es i heibio fe wrth fynd at y trên. Roedd e'n edrych yn wych."

Ond doedd pawb ddim mor bositif.

"Mae'n wael, mae e just yn rhy fach," meddai Steve Tribble.

"Mae'r orsaf yn y lle anghywir. Mae'r traffig yn fan hyn yn hurt. Fe gymeron nhw orsaf fysiau oedd yn iawn fel oedd hi, a'n gadael ni gyda hwn."

Pynciau cysylltiedig