Oedi cyflwyno BSL yn ysgolion Cymru yn 'siom' ac yn 'ddinistriol'

Miriam AlunFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Miriam Alun yn astudio cwrs iaith arwyddion ym Mhrifysgol Caeredin

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw ifanc wedi beirniadu'r penderfyniad i oedi cyflwyno Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fel cymhwyster TGAU yng Nghymru.

Yn ôl Miriam Alun, 18, mae peidio cyflwyno'r cymhwyster yn "gam yn ôl go iawn".

Yn gynharach eleni cyhoeddodd Cymwysterau Cymru y byddai TGAU newydd mewn BSL ar gael o 2027 - blwyddyn yn hwyrach na'r bwriad gwreiddiol.

Ond mae’r sefydliad bellach wedi dweud fod datblygu'r cymhwyster yn cyflwyno llawer o "heriau ymarferol i'r sector addysg yn ei gyfanrwydd".

Bydd disgyblion yn gallu astudio unedau llai mewn BSL yn lle hynny, meddai Cymwysterau Cymru.

'Brwydro am y Gymraeg a BSL'

Mae Miriam, sy'n wreiddiol o Abergele, newydd ddechrau astudio cwrs iaith arwyddion ym Mhrifysgol Caeredin.

"Mae cymaint o ymgyrchu a gwaith caled wedi mynd i wneud y cymhwyster yn realiti, o’n i’n gutted rili achos mae o’n rhywbeth mor bwysig," meddai wrth Cymru Fyw.

"'Dan ni fel pobl Cymraeg yn brwydro am yr iaith Gymraeg, a 'dan ni hefyd yn brwydro am yr iaith yma."

Dywedodd nad yw'r penderfyniad yn deg a bod rhaid ailystyried cyflwyno'r cymhwyster.

“'Dan ni angen fo, does 'na’m ffordd arall allen ni fyw.

“Mae jest yn 'neud ti deimlo fel bod ti ddim yn bwysig fel person byddar yng Nghymru.”

Dywedodd Cymwysterau Cymru y bydd modiwlau - neu unedau - BSL ar gael fel cymhwyster Sgiliau am Oes newydd yn lle.

Ychwanegodd y sefydliad y byddai'r rhain yn "galluogi ysgolion ledled y wlad i gynnig cymwysterau sy'n cynnwys Iaith Arwyddion Prydain, gyda mwy o ddysgwyr yn gallu datblygu sgiliau ymarferol".

Ond yn ôl Miriam, byddai cymaint o bobl yn buddio o gymhwyster TGAU.

"O’n i’n siomedig iawn yn clywed bod nhw 'di mynd yn erbyn o a d'eud bod nhw ddim isio 'neud," meddai.

"Dwi'n gallu clywed rhywfaint a dwi'n gallu clywed rŵan. Dwi ddim yn yr un sefyllfa â phlant sy’n hollol fyddar a’r teimlad yna o fod yn unig.

"Byddai cymaint o bobl 'sa’n buddio ohona fo."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Pan oedd Miriam yn ifanc, dywedodd fod ei brawd hi'n aml yn siarad drosti

Cafodd Miriam ddiagnosis o’i nam clyw gwan i ganolig pan oedd hi’n chwech oed.

Dywedodd ei bod hi’n aml wedi teimlo fel “burden” yn yr ysgol wrth iddi orfod gofyn i’w ffrindiau ailadrodd brawddegau.

“Pan o’n i’n ifanc o'dd clyw fi lot gwaeth cg o'dd brawd fi’n siarad lot drosta fi oherwydd doeddwn i ddim yn deall be oedd yn mynd 'mlaen so o'dd o’n reit isolating yn y ffordd yna.

“O’n i’n methu allan a gorfod gofyn ‘be' o'dd hwnna’ so o' ti yn teimlo fatha burden ond ma' pobl yn dod i ddeall.

“Y peth mwyaf anodd yn yr ysgol oedd d'eud be o’n i angen, felly mae'n amlwg bod plentyn ifanc ddim yn mynd i gael yr hyder i ddeud 'dwi angen hwn' i allu bod yn equal efo pawb arall.”

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Miriam yn arfer gofyn i’w ffrindiau yn yr ysgol ailadrodd brawddegau wrth siarad â hi

Dechreuodd Miriam ddysgu BSL mewn gwersi nos pan roedd hi’n 16 oed.

Dywedodd y byddai TGAU arwyddo iaith wedi “agor fy myd i fyny i hyd yn oed fwy o bethau”.

Yn ôl Miriam, byddai'r cymhwyster yn gwella perthynas pobl fyddar a phobl clyw.

"Ma' pobl efo rhyw fath o ofn i siarad efo pobl fyddar oherwydd ma'n nhw ofn i 'neud y peth anghywir.

"'Swn i’n gweld e’n help nid yn unig plant byddar ond pobl hŷn hefyd i allu cyfathrebu’n ddyddiol.

"Bod gan bobl y basics yna i allu cyfathrebu a ddim hyd yn oed mewn ffordd dwfn ond bod pobl yn gallu d'eud helo a gallu gofyn 'Sut wyt ti?', a 'neud bywyd dydd i ddydd pobl byddar yn llai unig."

Penderfyniad 'dinistriol'

Yn ôl Susan Daniels, prif weithredwr y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, mae penderfyniad y llywodraeth i atal y cymhwyster yn “ddinistriol”.

“Mae mwy o bobl yn gwybod ac yn defnyddio BSL ac mae’n allweddol i chwalu’r rhwystrau mae rhai pobl ifanc byddar yn eu hwynebu," dywedodd.

Ychwanegodd bod pobl yn haeddu cael y cyfle i ennill y cymhwyster yn eu hiaith eu hunain.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Cymru oedd wlad gyntaf y DU i gynnwys Iaith Arwyddion Prydain yn ei chwricwlwm, ac rydym ni'n deall y bydd siom ynghylch penderfyniad Cymwysterau Cymru.

"Rydyn ni’n falch eu bod am barhau i ddatblygu unedau Iaith Arwyddion Prydain fel rhan o gymhwyster newydd y Gyfres Sgiliau, a fydd ar gael o 2027.

"Drwy’r cymhwyster newydd hwn, caiff dysgwyr gyfle i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu ymarferol drwy Iaith Arwyddion Prydain er mwyn rhyngweithio’n gymdeithasol mewn sefyllfaoedd bob dydd."