Simon Brooks yn camu nôl o gadeiryddiaeth Comisiwn Cymunedau Cymraeg

Mae Dr Brooks wedi rhoi gwybod i'r llywodraeth ei fod yn derbyn triniaeth canser
- Cyhoeddwyd
Mae Dr Simon Brooks yn cymryd "cam yn ôl am gyfnod" fel Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi.
Mae Dr Brooks wedi rhoi gwybod i'r llywodraeth ei fod yn derbyn triniaeth canser.
Bydd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, yr is-gadeirydd, yn cymryd yr awenau fel cadeirydd dros dro.
Bydd y llywodraeth yn ymateb yn swyddogol i adroddiad "Grymuso Cymunedau, cryfhau'r Gymraeg" y Comisiwn ar 29 Mai yn Eisteddfod Yr Urdd, Margam.
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
- Cyhoeddwyd8 Awst 2024
- Cyhoeddwyd4 Awst 2022
Dywedodd Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, "yn gynharach yr wythnos hon, daeth gohebiaeth i law gan Dr Simon Brooks, yn fy hysbysu y bydd yn cymryd cam yn ôl am gyfnod fel Cadeirydd ail gam y Comisiwn sy'n edrych ar sefyllfa'r Gymraeg fel iaith gymunedol y tu allan i'r ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch."
"Mae Dr Brooks ar hyn o bryd yn derbyn triniaeth canser.
"Rwy'n dymuno'r gorau i Simon yn ystod y driniaeth ac yn edrych ymlaen iddo ail gydio yn y gwaith cyn gynted ag y bydd hynny'n ymarferol bosib.
"Hoffwn ddiolch yn fawr iddo am ei waith cynhwysfawr ac am ei weledigaeth a'i arweiniad.
"Mae'r adroddiad wedi creu dadansoddiad ac argraff gref o'r heriau sy'n wynebu ein cymunedau dwysedd uwch."
Cyhoeddodd y bydd Dr Lowri Cunnington Wynn hefyd yn cynorthwyo'r Comisiwn gyda'i waith.