'Anwybyddwch y pwysau i gael Dolig perffaith': Cyngor mam i rieni eraill

  • Cyhoeddwyd

Wrth i’r Nadolig nesáu, mae’r pwysau ar deuluoedd i greu’r Nadolig “perffaith” yn cynyddu hefyd.

Gyda sioeau Nadolig, siwmperi, anrhegion, ymweliadau â Siôn Corn, pyjamas sy’n matshio a gweithgareddau rif y gwlith yn dod yn bethau sy’n “rhaid eu gwneud” y daw pwysau mawr ar rieni ym mhobman.

I un rhiant o Benrhyndeudraeth, Leian Roberts, mae hi a’i theulu yn wynebu her ychwanegol sydd wedi rhoi gogwydd wahanol ar ddathliadau’r ŵyl, gan fod gan un o'i dau o feibion, Twm sy'n saith oed, awtistiaeth a sensory processing disorder.

Ffynhonnell y llun, Newyddion S4C

Nid yw Twm yn siarad (non-verbal) ond yn hytrach yn cyfathrebu drwy luniau ac arwyddion.

Ar raglen BBC Radio Cymru, Bore Cothi, eglurodd Leian: “Mae’r sbectrwm awtistiaeth yn enfawr ac alla’ i ‘mond egluro fy sefyllfa i efo Twm,” gan bwysleisio nad oes yr un profiad o awtistiaeth yr un fath i bawb.

“Dydy’r build-up i ‘Dolig yn golygu dim byd i Twm. Dydy anrhegion yn golygu dim i Twm. Mae bob diwrnod fatha’r llall i Twm. Ac i fi fel rhiant mae hynny’n drist. ”

Ffynhonnell y llun, leian roberts
Disgrifiad o’r llun,

Twm, gyda'i dad Alan

Disgwyliadau

Un o’r pethau mae llawer o blant eisiau ei wneud dros ‘Dolig yw ymweld â Siôn Corn mewn grotto. Mae’n rhan ‘ddisgwyliedig’ o blentyndod. Ond dydy’r ymweliadau hyn ddim, yn amlach na heb, yn addas ar gyfer plant awtistig.

“Dydy Twm ddim yn mynd i giwio [i fynd i grotto]. Mae hynny’n her fawr.” Soniodd Leian bod ambell fusnes lleol wedi ceisio creu sesiynau sy’n addas i blant ag anghenion arbennig ond eu bod nhw yn ystod oriau ysgol ac felly ddim wir yn gynhwysol.

Ffynhonnell y llun, Leian Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Twm gyda Siôn Corn

Er bod lapio anrhegion yn gallu gwneud rhai plant ag awtisiaeth yn anniddig mae Leian yn dweud nad oes gan Twm ddiddordeb mewn teganau. Ond, wrth gwrs, fe fydd o’n cael anrheg Nadolig eleni, a beic fydd hwnnw.

“Yr her arall sydd gennym ni fel rhieni efo plant ag anghenion ydy y munud mae rhywbeth yn SEN, Special Educational Needs, mae’r price tag yn cael ei ddyblu. Mae pob dim yn mynd mor ddrud. Mae beic Twm, sy’n ail law, wedi costio £450 i mi.”

Y diwrnod ei hun

Mae cadw at batrwm dyddiol yn bwysig iawn i Leian a’i theulu ac felly mae cynifer o newidiadau i drefn dyddiau yn ystod y cyfnod hwn yn gallu amharu ar fodlondeb Twm.

“Dan ni’n trio gwneud [diwrnod Nadolig] mor normal â fedrwn ni achos mae gennym ni Owi sydd yn chwech oed. Mae’n dŷ prysur felly fydd ’na ddigon o fynd a dod.”

Ond mi fydd yn rhaid iddyn nhw adael a mynd am dro yn y car fel y maen nhw’n ei wneud bob dydd gyda Twm. Mae’r tripiau hyn yn y car yn gallu bod mor hir â dwy awr. Fydd ’na ’chwaith ddim cinio Nadolig.

Ffynhonnell y llun, Leian Roberts

“Efo’r diwrnod fel bydd o, dydw i definitely ddim am roi pwysau arnaf i fy hun i gwcio rhyw dwrci! Efallai mai chips a brechdan a darn o gaws gawn ni. Ond fyddan nhw wedi cael llond bol o fwyd, fydd hynny’n saff! Fyddan nhw wedi cael presanta’ a fydd pawb yn hapus.”

A dyna yw cyngor Leian i deuluoedd eraill: i beidio â rhoi pwysau arnoch eich hun:

“Peidio dilyn yr Instagrams a’r matching pyjamas ’ma. Gwneud be’ sy’n gwneud chdi’n hapus.

"Mae ’na ormod o bwysau ar deuluoedd i wneud bob dim mor berffaith. Un diwrnod ydy o ’de?”