Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Iris yn 'lwcus' i fod yn fyw wedi salwch 'difrifol'
- Cyhoeddwyd
Wrth i Ŵyl Ffilm Iris 2024 ddirwyn i ben, mae cyfarwyddwr yr ŵyl, Berwyn Rowlands, wedi dweud ei fod yn lwcus o fod yma ar ôl cyfnod o salwch "difrifol wael".
Sefydlodd Berwyn Rowlands Wobr Iris 16 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r ŵyl yn dathlu ffilmiau LHDTC+.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd “o'dd yr arwyddion i gyd yna” ond fe ddiystyrodd beth oedd yn digwydd iddo.
“O’n i yn yr ysbyty, pancreatitis oedd o. Oedd 'na garreg, gallbladder stone, wedi mynd yn styc ac oedd hwnna 'di achosi pob math o gymhlethdodau.
“Doedd gennai’m syniad be oedd yn digwydd pan o’n i yn yr ysbyty – do’n i ddim yn ddewr, do’n i ddim yn gwybod pa mor sâl o’n i.
“O’n i’n magu pwysau ac o'dd unrhyw un o'dd yn edrych arnai yn gallu gweld bod rhywbeth o’i le."
'Difrifol wael'
Er yr arwyddion o salwch, penderfynodd Berwyn i barhau i gynhyrchu’r ŵyl y llynedd ond dywedodd nad dyma oedd “y peth callaf i wneud”.
“Dylwn i fod wedi mynnu sylw yn gynt.
“O’n i eisiau bod yn rhan o’r trefnu a’r dathlu ond erbyn diwedd yr ŵyl 'nes i droi’n felyn."
Bu’n rhaid i Berwyn dreulio cyfnod o bedwar mis yn yr ysbyty lle gafodd bedair lawdriniaeth i gael gwared ar ddarnau marw o’r pancreas.
“Dim ond 1/5 o’r pancreas sydd gen i ar ôl – ac fel organ dyw e ddim yn aildyfu felly mae’n gweithio’n galed iawn ar hyn o bryd.
“O'dd na wythnos lle roedd pobl yn meddwl bod pethau yn mynd i fynd yn ddifrifol wael.
“Dwi’n teimlo’n euog mod i wedi rhoi Mam trwy’r broses yna…a gweld hi’n edrych – o'dd y cariad yna, o't ti’n gallu gweld bod e’n rhywbeth anodd.”
Tra yn yr ysbyty, collodd Berwyn bron i draean o’i bwysau ac fe wnaeth ei gyhyrau wanhau gymaint fel bod yn rhaid iddo ddysgu sut i gerdded eto.
“I fynd adre o'dd rhaid i’r bobl ffysiotherapi helpu. Un bore aethon nhw â fi mewn cadair olwyn at y grisiau a dyma nhw’n gofyn pa un ydy dy goes gryfaf di a do’n i ddim yn gwybod beth oedd arwyddocâd y peth.
“Ond do’n i methu codi’n nhroed.
“Am ryw reswm, dwi ddim yn berson crefyddol iawn a dwi’n cofio meddwl am dad sydd ddim efo ni, a dwi’m yn gwybod sut ddigwyddodd ond mi wnes i gyrraedd top y chwe step.
“Allai ddweud yn bendant, bydden i ddim yma heddiw oni bai am y gwasanaeth iechyd.
"Rwy'n ofnadwy o lwcus a ffodus fy mod i dal yma."
Mae’r profiad hyn wedi gwneud i Berwyn ailystyried y “balans rhwng gwaith a bywyd personol”, meddai.
Dywedodd ei fod wedi bod yn aml yn rhoi gwaith yn flaenoriaeth ac yn “gwneud cam â fy hun a fy nheulu”.
“Roedd yna sawl tro y penderfynais i beidio mynd nôl i Ynys Môn oherwydd gwaith ond nawr rwy’n trio ymateb mewn ffordd fwy gonest.
“Y cyngor ges i gan sawl person oedd bydd yn garedig â thi dy hun – bydd yn fwy hunanol.”
'Stori bwysig'
Dima Hamdan, sy’n wreiddiol o Balestina, enillodd prif wobr yr Ŵyl Iris eleni, am ei ffilm Blood Like Water.
Mae’r ffilm wedi'i seilio ar ddewis teulu i naill ai gydweithio â meddiant Israel, neu gael eu bychanu gan bobl eu hunain.
Yn ôl Berwyn, dyma ffilm oedd yn “hynod anodd i wylio” ond yn “stori bwysig” am ddigwyddiadau’r Dwyrain Canol.
“O’n i’n ffeindio hi’n anodd iawn. Ond ar ddiwedd y dydd newyddiadurwraig sydd wedi dysgu creu ffilmiau yw hi.
"A ma hi yn berson hyderus, ma hi’n berson dewr."
Ychwanegodd Berwyn bod yr ŵyl wedi dod â chynulleidfaoedd gwahanol at ei gilydd yn dilyn cyfnod "ofnadwy" i’r sector ffilm ar ôl y pandemig.
"Mi ddaru bobl ddod yn eu cannoedd - o'dd e fath â teithio nôl mewn amser i ryw 56 mlynedd yn ôl a hefyd sylweddoli faint o bobl sydd yn gwerthfawrogi y cyfle i weld y straeon 'da ni’n eu rhannu.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2016
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2022