Gai Toms: Atgofion y cerddor â'r llechen yn ei waed

- Cyhoeddwyd
Mae'r cerddor o Flaenau, Gai Toms, wedi cyhoeddi llyfr a ddechreuodd fel atgofion drwy ei ganeuon... ond a drodd yn hunangofiant ar ddamwain.
Cafodd flas ar hel meddyliau, meddai, am y stôr o ganeuon mae wedi eu hysgrifennu dros y blynyddoedd - i'w fandiau Anweledig a Brython Shag, fel Mim Twm Llai, ac o dan ei enw ei hun - a dilyn siwrne ei fywyd drwy ei gerddoriaeth.
Y criw ffrindiau anweledig
Y ffordd orau i agor y llyfr, wrth gwrs, oedd gyda beth 'sbardunodd y cyfan, eglurodd, sef ei gyfnod â band bywiog o 'Stiniog:
"Cychwyn yn y dechra' rili, sef Dawns y Glaw, Anweledig, achos heb Anweledig, ella 'swn i'm yn siarad efo chi 'ŵan.
"Jyst sôn am sut ddotha ni ati fel criw o ffrindia' i ddechra' g'neud cerddoriaeth, ac ymarfer yn top garej, sef uwchben garej Rhys Roberts y baswr.

Anweledig yn y dyddiau cynnar
"Wedyn o'dd y llyfr jyst yn llywio'i hun mewn ffordd.
"O'n i 'di sefydlu cychwyn fy ngyrfa cerddorol – beth nesa'? Sôn am o le dwi'n dod. Pa gân? Graffiti Cymraeg! Ges i'n ngeni ym Mangor, ges i'n magu mewn sbensh...
"Wedyn erbyn i fi gychwyn yr ail gân 'nes i sylweddoli ma' hwn yn hunangofiant mwy na atgofion.
"Y caneuon sy'n arwain ac yn tywys, a 'nes i rili fwynhau hwnna."
O reggae i'r gwerin
Drwy feddwl am ei yrfa drwy ei ganeuon, mae Gai wedi gallu hel atgofion a hel meddyliau am yr hyn sydd wedi dylanwadu ar ei gerddoriaeth dros y blynyddoedd, a'r hyn sydd wedi ei ysbrydoli i arbrofi, meddai.
"Efo Anweledig o'dd o lot o gerddoriaeth byd, Affro, Caribî ac ati a reggae, funk.
"Wedyn, fel cyfansoddwr 'nes i ddarganfod diddordeb newydd trwy Meic Stevens, sef y faled; y geiria' a'r gitâr acwstig.
"O'n i wedyn yn gallu gneud baledi fel Mim Twm Llai, a gadael y rhai bywiog i Anweledig. Ond efo Mim Twm Llai, o'n i'n arbrofi hefyd, efo gwerin, geiriau, bach o hip-hop, bach o roc, indie..."

Mae Gai yn arbrofi gyda genres caneuon... ond hefyd gyda dulliau gwneud cerddoriaeth, drwy ailgylchu hen sbwriel i fod yn offerynnau. Roedd ei albwm, Rhwng y Llygru a'r Glasu, yn un eco-gysyniadol
Mae hefyd yn ystyried Bob Delyn a'r Ebillion fel un o'i ddylanwadau cerddorol pwysicaf, a gafodd gryn argraff arno, ac a siapiodd ei gerddoriaeth:
"'Faint mor ddylanwadol oedden nhw o safbwynt canu gwerin amgen yng Nghymru?! Dwi'n meddwl falla mai nhw 'sa'r cynta i arbrofi efo curiadau dawns ac offerynnau fel y bombard yn Ffair y Bala. A bo' hynna'n gyffrous iawn a chyfrannu i'n diwylliant ni.
"'Nes i gael fatha rhyw fath o dröedigaeth yn gwrando ar Bob Delyn; yn sylwi 'dwi'n Gymro, 'dan ni'n Geltiaid, 'dan ni'n Ewropeaidd'.
"Fel fi'n hun, Gai Toms, 'sa ti'n ei alw o'n inde-rock am wn i. Ond mae'r elfen werin yna; y geiriau, y Fro, ein lle ni yn y byd. A dathlu bo' ni'n gallu mynegi ein hunain yn y Gymraeg."
'Stiniog a'r chwarel
Un o'i ddylanwadau eraill, wrth gwrs, yw ei fywyd yn nhref chwarelyddol Blaenau Ffestiniog, gyda'r lyric 'Rioed 'di gweithio'n chwaral, gennai lechan yn y gwaed o'r gân Graffiti Cymraeg, yn ddathliad o gefndir chwarelyddol tref Blaenau Ffestiniog.
"Mae pawb yn meddwl 'Gai Toms = Blaenau, llechi'. Ond dyna ydi o 'de. Heb y chwareli, 'swn i'm yma.
"O'dd 'y'n nhad yn gweithio'n y chwaral, fy nheidiau, yncls, i gyd yn gweithio'n chwaral. O'n ni yn ymfalchïo yn ein treftadaeth a'r traddodiad chwarelyddol."
Ac mae'r dref wedi parhau yn rhan bwysig o fywyd Gai a'i gyd-aelodau o Anweledig:
"'Nath Anweledig gyfrannu at yr egni positif 'na, mewn tref ôl-ddiwydiannol yn y 90au; bo' ni yn griw o hogia' o'dd yn cyfrannu'n ôl i'r gymuned.
"'San ni wedi gallu symud i ffwrdd yn hawdd. Aethon ni i'r coleg ond ddaethon ni'n ôl a 'dan ni dal yma, sy' reit unigryw."

A dydi hi ddim yn syndod i Gai enwi ei lyfr yn Llechan yn y Gwaed oherwydd ei gysylltiad dwfn â'i dref enedigol a'r llwch llechi sydd - yn llythrennol - yn llifo drwy ei wythiennau...
"O'n i chwara' pêl-droed pan o'n i'n iau, ac o'dd 'na lechi yn dal pyst y golia'. A 'nes i sleidio i daclo a mewn i'r llechi.
"O'dd gen i graith yn fy nghoes ac am fisoedd o'dd gen i fath â tatŵ llwyd-las; llwch llechi oedd o!"
'Cydio yn yr awen'
Mae'r broses o ysgrifennu'r llyfr wedi rhoi'r cyfle i Gai edrych nôl ar ei ganeuon gyda llygaid newydd, eglura:
"Dwi'n gwrando ar amball i gân a dwi'n meddwl 'w dwi'm yn licio hwnna - dwi isio mynd nôl i recordio hwnna eto'.
"Dwi'n licio perffeithio'r gân ond 'wrach ddim perffeithio'r sŵn. Dwi licio'r elfen amrwd a bod 'na enaid iddo fo.

Chwarae yn y Sesiwn Fawr yn Nolgellau yn 2007
"Dwi'm yn honni bo' bob cân dwi 'di chreu yn cynnwys yr elfenna' yna achos proses ydi popeth, a ti'n dysgu fel ti'n mynd ymlaen.
"Ond 'ma'r caneuon i gyd yn golygu rwbath achos dwi 'di cydio yn yr awen yna ar ryw bwynt, a dwi 'di mynd 'reit, ma' hwn yn bwysig i mi neud rŵan'.
"Dwi'n meddwl bod bob cân yn gorfod golygu rhywbeth i rywun."
Gorffen drwy edrych 'mlaen
Ag yntau wedi cael cyfle i feddwl a chofio am ei holl repertoire o ganeuon er mwyn dewis rhai i'w cynnwys yn y llyfr, oes ganddo un mae o fwyaf balch ohoni?
"Dwi'n falch o bob un. Dawns y Glaw, hwnna o'dd y ffrwydrad; hwnna o'dd y rheswm am bopeth, ac mae hwnna'n golygu lot i mi, a'r cyfnod 'na yn Anweledig.
"Ond dwi'n falch iawn o'r gân Coliseum oddi ar yr albwm newydd, 'chos y caneuon yma ddaeth â fi drwy gyfnod rili anodd, yn y Clo a cholli Mam i Covid.
"Yn y gytgan gynta' dwi'n dweud:
Gwacter sy'n fy llenwi i er yn llawn o atgofion ohonat i
"A wedyn yn y diwadd dwi'n dweud:
Yn y gwagle ma' 'na le i godi eto i sŵn hwrê
"Yr ysbryd 'na i barhau, i oroesi ac i symud ymlaen... Mae hwnna'n meddwl lot i mi.

"Yr albwm o'r Clo ydi hi – Y Filltir Gron – dwi dal ddim 'di rhyddhau hi, a dwi'n edrych mlaen at ei chael hi allan. Mae o er cof am fy mam a'n nhad.
"O'n i'n licio bod hwnna'n gorffen y llyfr... a bod 'na fwy i ddod 'de. Er mai atgofion ydyn nhw, mae angen edrych ymlaen hefyd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd20 Mehefin
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd25 Mehefin