Eisteddfod: Cynnal seremoni Medal y Dramodydd

Y Fedal Ddrama
  • Cyhoeddwyd

Seremoni Medal y Dramodydd fydd prif ddefod y dydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Iau.

Fel yn achos Gwobr Goffa Daniel Owen, seremoni fer fydd hon heb yr Archdderwydd na'r Orsedd yn cymryd rhan.

Ond mae'n debygol o ddenu mwy o sylw nag arfer yn sgil trafodaethau helaeth wedi i'r fedal gael ei hatal yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf.

Roedd y dasg yn wahanol eleni ac roedd hynny wedi cael ei benderfynu cyn yr hyn a ddigwyddodd yn 2024.

Disgrifiad,

Atal y Fedal Ddrama: Yr ymateb ar y maes yn 2024

Cafwyd 20 cais, sy'n fwy na'r arfer, ac yn dystiolaeth bod newid i'r fformat yn gweithio, yn ôl yr Eisteddfod.

Roedd hi'n ofynnol i ddramodwyr gyflwyno braslun o hyd at 2,500 o eiriau sy'n cynnwys amlinelliad stori - dechrau, canol, diwedd - lleoliad ac amser, proffil cymeriadau, arddull y darn yn ogystal ag enghraifft o dair golygfa wedi eu deialogi, neu ddrafft o ddrama gyflawn o hyd at 30-45 munud.

Mae cwmnïau a chynhyrchwyr theatr yng Nghymru wedi dod ynghyd i greu consortiwm fel rhan o bartneriaeth gyda'r Eisteddfod Genedlaethol i gynnig pecyn o gyfleoedd i enillydd y fedal.

Aelodau'r consortiwm yw Frân Wen, Theatr Bara Caws, Theatr Clwyd, Theatr Cymru, Theatr Sherman, Theatr y Torch, Cwmni Theatr Arad Goch ynghyd â'r Eisteddfod.

Cai Ll Evans
Disgrifiad o’r llun,

Cai Llewelyn Evans oedd enillydd Medal Ddrama Eisteddfod 2023

Cai Llewelyn Evans o Bontarddulais a gipiodd y fedal hon ddiwethaf, a hynny yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.

Roedd y panel o feirniaid eleni yn cynrychioli aelodau'r consortiwm sef Betsan Llwyd, Daniel Lloyd, Ffion Wyn Bowen, Gethin Evans, Lowri Morgan a Steffan Donnelly.

Cafodd Mared Jarman a Melanie Owen eu penodi i'r panel beirniaid fel ymarferwyr llawrydd, a bu Mari Emlyn a Rhian Blythe mewn un sesiwn drafod fel dirprwyon ar ran eu sefydliadau.

Mae'r buddugol yn ennill y fedal, er cof am Urien ac Eiryth Wiliam yn rhoddedig gan eu plant Hywel, Sioned a Steffan a £3,000.

Nic Parry fydd yn arwain y seremoni.