Ble mae caeau pêl-droed gorau Cymru?
- Cyhoeddwyd
Mae Sean Mills o Lanilltud Faerdref wrth ei fodd yn mynd i weld pêl-droed byw.
Mae’n caru gwneud hyn gymaint ei fod o wedi mynd i 253 o stadia pêl-droed mewn 25 gwlad. Mae 83 o rheiny yng Nghymru; o’r pum clwb sy’n chwarae ym mhyramid Lloegr, i glybiau’r Cymru Premier, i’r clybiau bychain ar lawr gwlad.
Mae’r mwyafrif o’r clybiau sydd ar ei restr yn ne Cymru, ond mae’n gobeithio cynyddu’r niferoedd ledled y wlad yn y dyfodol agos.
Felly, pa rhai yw ffefrynnau Sean yng Nghymru? Dyma ei restr o’i 10 hoff gaeau.
10. Y Cae Ras - Wrecsam
O ystyried bod Wrecsam yn 'elynion' i fy nglwb i, Casnewydd, mae hwn yn ddewis dadleuol i mi. Serch hynny, ar ôl rhoi fy nhuedd i’r naill ochr, mae’n anodd anwybyddu’r hanes a ddaw gyda’r Cae Ras.
Dyma oedd y llwyfan ar gyfer gêm ryngwladol gyntaf Cymru yn 1877, ac felly dyma’r stadiwm pêl-droed hynaf yn y byd sy’n dal i gynnal gemau rhyngwladol.
Bydd y maes yma’n ymddangos yn Adran Un y tymor nesaf, yn dilyn dyrchafiad Wrecsam eleni, sy'n golygu na fyddaf yn dychwelyd yno y tymor nesaf gyda Casnewydd.
Gyda thimau fel Birmingham City, Huddersfield Town a’u gelynion lleol, Shrewsbury Town yn ymweld y tymor nesaf fe all tymor nesaf fod yn hynod o gyffrous yno.
9. Maes Glasbrook - Penrhiwceibr
Nesaf ar y rhestr mae Penrhiwceibr yng Nghwm Cynon - mae hi'n berl o gae.
Gyda mynyddoedd yn ei amgylchynu ar un ochr mae’r golygfeydd yma yn wirioneddol wych a gyda’r clwb yn cael ei ddyrchafu i ail haen pêl-droed yng Nghymru (Adran Cymru South), mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair i Penrhiwceiber Rangers.
8. Parc Aberaman - Aberdâr
Yn rhan o bumed haen pêl-droed Cymru, mae Aberdâr wedi dod yn dîm anghofiedig o fewn y system ddomestig Gymreig, sy'n drueni mawr oherwydd bod y cae old school yma ymysg fy ffefrynnau yng Nghymru.
Gyda'r prif eisteddle wedi'i godi'n uchel uwchben y ddaear ar fryncyn bach mae yna olygfa braf o’r cyffro ar y cae.
Roedd Aberdare Town yn rhan o Gynghrair Pêl-droed Lloegr nôl yn 1926/27, pan oeddent yn chwarae dan yr enw Aberaman Athletic. Roedd eu gwrthwynebwyr y tymor hwnnw'n cynnwys dau dîm arall sydd â chae ar y rhestr yma - fy annwyl Gasnewydd, a Merthyr.
7. Coedlen y Parc - Aberystwyth
Roedd Aberystwyth yn un o sylfaenwyr Uwch Gynghrair Cymru ar ddechrau'r 1990au, a dydyn nhw erioed wedi disgyn allan ohoni, er eu bod nhw 'di bod yn agos dros y blynyddoedd diweddar.
Mae Coedlan y Parc yn faes gwych ynghanol tref hyfryd Aberystwyth, ac roedd yn lleoliad ar gyfer gemau rhagbrofol Ewropeaidd yn y gorffennol. Mae 'na olygfeydd braf o bob eisteddle ac mae'n sicr yn un o'r stadia gorau yn haen uchaf pêl-droed Cymru.
6. Y Rec - Rhydaman
Dwi’n cynnwys Rhydaman oherwydd pan es i yno dyma oedd yr awyrgylch orau erioed imi ei brofi mewn gem bêl-droed ddomestig yng Nghymru. Roedd e ar ddiwrnod agoriadol y tymor a daeth Y Barri â nifer o gefnogwyr i’r gorllewin, ac roedd y sŵn a’r awyrgylch yn anhygoel.
Roedd e mor swnllyd yno, ac fe enillodd Rhydaman gyda gôl yn y funud olaf gan yr enwog Lee Trundle, gynt o Abertawe wrth gwrs.
Gyda’r clwb yn gorffen yn y trydydd safle yn y Cymru South eleni bydd yn gobeithio am ddyrchafiad cyn bo hir – ac fe fyddai’r clwb yn dipyn o gaffaeliad i’r gynghrair!
5. Parc Stebonheath - Llanelli
Gan gadw at y Cymru South, Parc Stebonheath Llanelli yw'r enw cyntaf i'r pump uchaf. Mae'r prif eisteddle yn rhyfeddol o unigryw ac mae'r maes ei hun wedi gweld nifer o gemau cofiadwy dros y blynyddoedd, gan gynnwys gêm ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr rhwng Llanelli a FK Ventspils o Latfia.
Mae hefyd wedi bod yn llwyfan ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan Cymru nifer o weithiau yn ogystal â’r gêm ddiweddar rhwng Cymru C a Lloegr C, lle enillodd Cymru 1-0.
4. Rodney Parade - Casnewydd
Mae gen i docyn tymor yma, felly roedd rhaid i fi gynnwys Rodney Parade. Fy man arferol yw ar y teras yn y rhan lle mae’r mwyaf o'r sŵn yn dod.
Gyda’r teras dim ond ychydig lathenni i ffwrdd o’r ystlys, gallwch ddisgwyl awyrgylch ysgytwol pan mae’r lle dan ei sang – fel yr oedd ar gyfer gemau yn erbyn Wrecsam, Swindon Town ac wrth gwrs Manchester United eleni.
Does unman dwi’n mwynhau gwylio pêl-droed yn fwy na Rodney Parade.
3. Cwmnantygroes - Abertyleri
Ar ôl iddo gael ei gynnwys ar y rhestr 100 Stadiwm Pêl-droed Gorau Prydain gan Four Four Two, buan iawn y cafodd Cwmnantygroes ei ychwanegu i bucketlist pawb.
Dydi’r lluniau ddim yn gwneud cyfiawnder â'r maes yma – mae rhaid i chi ei weld dros eich hun er mwyn gallu gwerthfawrogi'n llawn pa mor rhyfeddol yw e. Mae wedi'i leoli'n uchel yn y mynyddoedd, a’i amgylchynu gan fwy a mwy o fynyddoedd pa bynnag ffordd chi'n troi.
Mae’r prif eisteddle yn fan prysur hefyd, gan ei fod yn teimlo fel bod y gymuned gyfan yn dod i wylio’r Adar Gleision yn chwarae. Mae'n rhaid ymweld â’r lle ‘ma.
2. Yr Ofal - Caernarfon
Yn enwog am eu cefnogwyr swnllyd, mae Caernarfon wedi ennill enw da i’w hunain yn y byd pêl-droed yng Nghymru. Es i i rownd derfynol y gemau ail gyfle Ewropeaidd yn ddiweddar i weld y Cofis yn wynebu Pen-y-bont, ar achlysur a oedd yn argoeli i fod yn anhygoel.
Ces i ddim fy siomi. Roedd yr awyrgylch yn anhygoel a dim ond gwella wnaeth pethau wrth i Gaernarfon sgorio tair gôl. Nid oedd gôl hwyr gan Ben-y-bont yn gallu difetha’r awyrgylch o barti, ac ar ddiwedd y gêm fe heidiodd y dorf ar y cae, a bydd Caernarfon yn chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes y tymor nesaf.
1. Parc Penydarren - Merthyr Tudful
Ar y brig mae cartref Merthyr, achos does unman yn well am bêl-droed non-league na Pharc Penydarren. Gyda'i deras uchel old-school wych tu ôl i'r gôl, a'r cefnogwyr swnllyd ac angerddol yn annog y Merthyron ymlaen, mae gwylio Merthyr yn brofiad gwych o'i gymharu â'r stadia mwy modern.
Mae nifer o nosweithiau enwog wedi bod yma - gan gynnwys buddugoliaethau yn erbyn Atalanta yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau yn yr 80au. A gyda nifer y cefnogwyr yn tyfu o dymor i dymor, yn ogystal â nifer o fuddsoddwyr enwog (Jonny Owen a Joe Morrell i enwi dau), mae cefnogwyr Merthyr yn edrych i'r dyfodol gyda gobaith.
Felly dyna ddewisiadau Sean o’i hoff gaeau pêl-droed yng Nghymru. Ond mae hefyd wedi bod i bron 200 o stadia eraill tu hwnt i Gymru. Dyma’i hoff bump o ledled y byd:
Canolfan Chwaraeon Guangxi - Nanning, China
Gradski stadion u Poljudu - Split, Croatia
Borussia-Park - Mönchengladbach, Yr Almaen
De Kuip - Rotterdam, Yr Iseldiroedd
Stadion Miejski w Łodzi - Łódź, Gwlad Pwyl
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd18 Mai
- Cyhoeddwyd12 Mai