Dod â'r iaith Gymraeg i ŵyl Download yn 'freuddwyd'

CelaviFfynhonnell y llun, Celavi
  • Cyhoeddwyd

Mae band roc o Gymru'n gobeithio rhoi llwyfan i'r Gymraeg yn un o wyliau cerddorol mwyaf y DU.

Mae'r band nu-metal dwyieithog, Celavi o Fangor wedi cyrraedd y rhestr fer i berfformio yng ngŵyl roc a metal fwyaf y Deyrnas Unedig.

Nhw fyddai'r band cyntaf i berfformio yn Gymraeg ar lwyfan Download os ydyn nhw'n llwyddiannus.

Yn ôl y prif leisydd, Sarah Wynn: "Dyma'n breuddwyd ni i chwarae yn yr ŵyl yma, mae'n beth mawr i ni.

Yn siarad ar raglen Breakfast ar Radio Wales gyda'i chyd-aelod, Gwion Griffiths, dywedodd: "Ni fyddai'r band cyntaf i berfformio yn yr iaith Gymraeg ac i ddod â'r iaith Gymraeg i Download.

"Ac mi fyddai'n anrhydedd mawr i gynrychioli'r iaith Gymraeg a Chymru ar lwyfan mor eiconig. Mae'n emosiynol iawn ond ni'n gyffrous iawn hefyd."

Mae'r ddau wedi cyrraedd y rhestr fer o blith cannoedd o geisiadau gan yr orsaf radio Kerrang! fel rhan o'u cystadleuaeth The Deal i ennill cytundeb record a pherfformio yn yr ŵyl.

Meddai Gwion: "Byddai'n binacl i unrhyw fand ym Mhrydain i chwarae yno achos mae cymaint o artistiaid rhyngwladol yn dod yno i chwarae.

"Mae Donington [lleoliad yr ŵyl] yn le arbennig sy' wedi bod yn mynd ers y 1980au.

"Mae'n rhywbeth sy' wedi parhau. I unrhyw un sy'n cychwyn gwneud miwsig mae bod mor agos i'r cyfle i wneud iddo ddigwydd yn rhyfeddol."

CelaviFfynhonnell y llun, Celavi

Mae rhai o fandiau mwyaf y byd wedi perfformio yn yr ŵyl dros y blynyddoedd, gan gynnwys Iron Maiden, Metallica ac ACDC.

Rhyddhaodd Celavi eu EP diweddara' ANIMA ym mis Hydref.

Meddai Sarah: "Wrth dyfu fyny oeddan ni'n gwrando ac yn gwylio Kerrang! ac roedd nu-metal mor bwerus ac egnïol. Ac roedd y perfformiadau ar lwyfan hefyd wedi ysbrydoli ni.

"Doedd dim nu-metal yn yr iaith Gymraeg ac mi wnaeth hwnna ysbrydoli ni efo'n miwsig ni ac oeddan ni isho 'neud o fel band dwyieithog hefyd."

Dywedodd Gwion: "Mae'r syniad o counterculture a rhywbeth tu allan i'r norm yn bwysig i'r ddau ohono ni. Roedd clywed y pŵer yn y miwsig am y tro cyntaf ond gyda delivery mor brydferth wedi'n taro ni."

Mae'r pâr priod yn cydweithio yn y stiwdio, gyda Gwion yn gyfrifol am y cyfansoddi a Sarah'n ysgrifennu y geiriau i'w caneuon.

Meddai Sarah: "Mae'n lot o hwyl i weithio efo'n gilydd."

Pynciau cysylltiedig