Beth sydd ei angen ar Gymru i osgoi'r llwy bren?

Jac MorganFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Jac Morgan fydd capten Cymru i herio Lloegr ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dod i ben ddydd Sadwrn, ac yn fathemategol o leiaf, mae'n bosib i bedwar tîm gipio'r tlws.

Yn anffodus, dydy Cymru ddim yn un ohonynt, a brwydro i osgoi'r llwy bren am yr ail flwyddyn yn olynol fydd y cochion.

Mae Cymru ar rediad o golli 16 gêm brawf yn olynol, ac yn wynebu talcen caled wrth groesawu Lloegr i Gaerdydd brynhawn Sadwrn.

Felly beth sydd ei angen ar Gymru i osgoi gorffen ar waelod y tabl?

Beth yw'r sefyllfa cyn y gemau?

Wrth i olygon llawer o gefnogwyr droi tua'r ras i ennill y bencampwriaeth, mae Cymru'n cystadlu yn erbyn Yr Eidal i geisio osgoi'r llwy bren am orffen yn olaf.

Mae Cymru wedi colli pob gêm hyd yn hyn, ond wedi sicrhau tri phwynt bonws ar hyd y daith.

Does gan Yr Eidal yr un pwynt bonws, ond fe wnaethon nhw guro Cymru yn Rhufain, felly mae ganddyn nhw bedwar pwynt.

Colli oedd hanes Cymru yn y glaw yn Rhufain yn yr ail rownd o gemauFfynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Colli oedd hanes Cymru yn y glaw yn Rhufain yn yr ail rownd o gemau

Ffactor arall allai chwarae rhan bwysig i Gymru yw'r gwahaniaeth pwyntiau - y gwahaniaeth rhwng y pwyntiau mae tîm wedi sgorio a'r pwyntiau maen nhw wedi ildio yn y gemau.

Petai'r timau'n gyfartal ar bwyntiau yn y tabl, byddai gwahaniaeth pwyntiau dros y bencampwriaeth yn penderfynu eu safleoedd.

Ar hyn o bryd mae Cymru ar -65, sy'n well na'r Eidal ar -77.

Beth sydd ei angen ar Gymru?

Yn syml, mae Cymru angen sicrhau o leiaf un pwynt yn fwy na'r Eidal er mwyn cael gobaith o orffen yn uwch na'r Azzurri.

Petai'r Eidal yn sicrhau pwynt bonws wrth golli, yna byddai angen i Gymru ennill, cael gêm gyfartal, neu sicrhau dau bwynt bonws wrth golli.

Os ydy'r Eidal yn curo Iwerddon gyda phwynt bonws, fe fydd Cymru'n sicr o dderbyn y llwy bren, dim ots beth fydd canlyniad y gêm yng Nghaerdydd.

Petai'r Eidal yn ennill heb bwynt bonws, yna fe fyddai angen i Gymru guro Lloegr gyda phwynt bonws, a gobeithio bod eu gwahaniaeth pwyntiau dal yn well.

Bydd gêm Yr Eidal ar ben cyn i Gymru ddechrau yn erbyn Lloegr, felly fe fyddan nhw'n gwybod beth sydd ei angen arnynt.

Beth yw'r stori ar frig y tabl?

Maro ItojeFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Maro Itoje a Lloegr siawns o gipio'r bencampwriaeth, er mai Ffrainc yw'r ffefrynnau

Mae'n bosib i Loegr ennill y bencampwriaeth, ond Ffrainc - fydd yn herio'r Alban yn y gêm hwyr nos Sadwrn - yw'r ffefrynnau, a hwythau bwynt ar y blaen i'r Saeson yn y tabl.

Mae Iwerddon bwynt y tu ôl i Loegr, felly fe allan nhw ennill y bencampwriaeth o hyd hefyd.

Yn fathemategol fe allai'r Alban ennill y Chwe Gwlad hefyd, er y byddai angen cyfres o ganlyniadau annhebygol iawn.