Joe Roberts a Wainwright i ddechrau yn erbyn Lloegr

Joe RobertsFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joe Roberts wedi ennill pedwar cap i Gymru

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi gwneud dau newid i'r tîm a gollodd yn erbyn Yr Alban i herio Lloegr yn eu gêm olaf yn y Chwe Gwlad eleni.

Bydd Joe Roberts yn dechrau ar yr asgell yn hytrach na'i safle arferol fel canolwr, gan gymryd lle Tom Rogers sydd wedi'i anafu.

Ymysg y blaenwyr, mae Aaron Wainwright wedi'i ffafrio yn y rheng-ôl yn hytrach na Tommy Reffell.

Bydd y gic gyntaf yn Stadiwm Principality am 16:45 ddydd Sadwrn.

Aaron Wainwright
Disgrifiad o’r llun,

Aaron Wainwright yn cymryd lle Tommy Reffell ydy'r unig newid ymysg y blaenwyr

Mae Cymru wedi colli'r pedair gêm gyntaf yn y Chwe Gwlad eleni, ond mae'r perfformiadau wedi gwella'n sylweddol ers i Matt Sherratt gymryd yr awenau dros dro yn dilyn ymadawiad Warren Gatland ynghanol y bencampwriaeth.

Mae Sherratt wedi penderfynu yn erbyn gwneud nifer o newidiadau i'r tîm fydd yn dechrau, gan olygu bod chwaraewyr fel Dewi Lake, Jarrod Evans a Teddy Williams ar y fainc unwaith eto.

Matt SherrattFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y gêm yn erbyn Lloegr fydd yr olaf i Matt Sherratt fel prif hyfforddwr dros dro

Mae'n bosib i Loegr ennill y bencampwriaeth, ond Ffrainc - fydd yn herio'r Alban nos Sadwrn - yw'r ffefrynnau, a hwythau bwynt ar y blaen i'r Saeson yn y tabl.

Mae Iwerddon bwynt y tu ôl i Loegr, felly fe allan nhw ennill y bencampwriaeth o hyd, ac yn fathemategol fe allai'r Alban ennill y Chwe Gwlad hefyd, er y byddai angen cyfres o ganlyniadau annhebygol iawn.

Fe allai Cymru osgoi'r llwy bren ddydd Sadwrn - gyda'r crysau cochion bwynt yn unig y tu ôl i'r Eidal, er eu bod wedi colli pob gêm hyd yma.

Mae Cymru ar rediad o golli 16 gêm brawf yn olynol - y rhediad gwaethaf yn eu hanes o bellffordd.

Tîm Cymru

Murray; Mee, Llewellyn, B Thomas, Roberts; Anscombe, Tomos Williams; Smith, Dee, John, Rowlands, Jenkins, Wainwright, Morgan (capt), Faletau.

Eilyddion: Lake, G Thomas, Assiratti, Teddy Williams, Reffell, R Williams, J Evans, Tompkins.

Tîm Lloegr

M Smith; Roebuck, Freeman, Dingwall, Daly; F Smith, Mitchell; Genge, Cowan-Dickie, Stuart, Itoje (capt), Chessum, T Curry, B Curry, Earl.

Eilyddion: George, Baxter, Heyes, Cunningham-South, Pollock, Willis, Van Poortvliet, Ford.