Cymuned yn llwyddo i godi £200,000 i achub tafarn y Ring

- Cyhoeddwyd
Mae menter gymunedol yng Ngwynedd wedi llwyddo i berchnogi eu tafarn leol, ar ôl iddyn nhw werthu £197,100 o gyfranddaliadau.
Cadarnhaodd Menter y Ring bod gan y gymuned bellach ddigon o arian i dalu am les ar y Ring, yn dilyn ymgyrch lwyddiannus.
Bu'r gymuned wrthi ers mis yn ceisio casglu cyfranddaliadau er mwyn sicrhau dyfodol i'r dafarn, a hyn wedi i'r syniad gael ei blannu 'nôl ym mis Medi 2024.
Roedd y dafarn wedi wynebu heriau yn y gorffennol yn dilyn y cyfnod clo, ond mae dyfodol y dafarn i weld yn ddiogel yn nwylo'r gymuned.

Mae'r dafarn wedi bod yn rhan ganolog o'r gymuned ers degawdau
Cafodd tafarn y Brondanw Arms, neu 'Y Ring' fel caiff ei hadnabod yn lleol, ei rhoi ar werth.
Gyda'r dafarn yn rhan ganolog o'r gymuned, fe aeth criw lleol ati i gychwyn ymgyrch i berchnogi'r dafarn 'nôl ym mis Medi 2024.
Wedi cyfnod o alw am fenthyciadau neu addewid am fenthyciadau, fe ddaeth y cyfnod ym mis Mawrth 2025 i'r gymuned i brynu'r cyfranddaliadau.
Roedd angen iddyn nhw werthu £200,000 o gyfranddaliadau mewn cyfnod byr.
Ond gyda phobl ar draws Cymru yn cyfrannu fe wnaethon nhw lwyddo i gyrraedd y targed ariannol erbyn nos Lun, 31 Mawrth.
'Da ni wedi gwirioni'
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Menter y Ring: "Diolch i bawb am bob buddsoddiad. Am fis! 'Da ni wedi gwirioni efo'r ymateb."
Mae'r neges hefyd yn nodi eu bod am gadw'r cynnig cyfranddaliadau ar agor nes ddydd Sul er mwyn ceisio cyrraedd y £200,000.
Maen nhw'n nodi fod bellach 817 o bobl yn rhan o deulu y Ring.
"Mae'r arian rydym wedi ei godi gyda'n gilydd hefyd am fynd tuag at ddechrau ar y gwaith caled o adfer yr adeilad yn dilyn dros 6 mis o fod ynghau dros y gaeaf."
Maen nhw'n cloi'r neges gan ddweud y bydd 'na ddiweddariad arall yr wythnos nesaf.

Dywedodd Osian Gruffydd, aelod o bwyllgor y Ring ei "fod yn deimlad gwych" i allu cyrraedd y targed
Wrth siarad â Cymru Fyw wedi'r cyhoeddiad, dywedodd Osian Gruffydd, aelod o bwyllgor y Ring: "Mae o'n hynod o gyffrous ac mae'r ymateb i'r alwad am fuddsoddwyr wedi bod tu hwnt i unrhyw ddisgwyliadau.
"'Da ni wedi'n rhyfeddu gan yr ymateb," meddai.
"Mae gweld bo' ni wedi cyrraedd bron iawn y targed, hen ddigon i dalu'r brydles, yn deimlad gwych."
Ag yntau wedi symud i Lanfrothen ddwy flynedd yn ôl, dywedodd iddo "weld protest yn digwydd i ailagor y lle [y Ring] ac oedd gweld hynny yn dangos yn syth faint mae'r lle yn ei olygu i'r ardal".
"Ers degawdau mae'r lle wedi bod yn fan i bobl yr ardal i ddod at ei gilydd, pobl o bob cefndir sy'n byw yn yr ardal... dydi o ddim ar gyfer carfan benodol o gymdeithas, mae pawb yn mynd yna."
'Curiad calon plwyf Llanfrothen'
Wrth edrych ymlaen at y camau nesaf, dywedodd bod 'na "waith i'w wneud i gael y lle yn barod i agor, gwaith byr dymor a phethau mwy hir dymor".
Wrth ddiolch i'r gymuned a'r rheiny sydd wedi cyfrannu, mae'n edrych ymlaen at weld beth sydd gan y dafarn i'w chynnig yn y dyfodol agos.
Wrth siarad â Cymru Fyw yn ystod yr ymgyrch i gasglu'r arian, dywedodd Melangell Dolma, aelod o'r grŵp cymunedol' mai "Y Ring ydy curiad calon plwyf Llanfrothen".
"Mae'i go iawn yn dafarn chwedlonol ac yn rhan bwysig o dreftadaeth a diwylliant Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth
- Cyhoeddwyd24 Medi 2024