'Roedden ni ar ein pen ein hunain yn wythnosau olaf mam'
- Cyhoeddwyd
Rhwng dysgu bod ei mam, Joan, yn marw a’r farwolaeth ei hun dair wythnos yn hwyrach, roedd Ceridwen Hughes wedi gorfod gofalu, addasu a threfnu.
Ond i Ceridwen a'i chwiorydd o'r Wyddgrug, roedd y gwaith gweinyddol o ofalu wedi golygu colli treulio amser hollbwysig gyda'u mam cyn iddi farw.
Mae adroddiad newydd gan elusen canser Marie Curie yn awgrymu bod nifer fel Ceridwen a'i theulu yn gorfod gwneud gwaith gofalu hanfodol, er iddyn nhw ddweud eu bod yn teimlo nad oedd ganddyn nhw'r sgiliau a'r wybodaeth oedd angen.
Mae’r elusen nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun ar gyfer eu Datganiad Ansawdd ar ofal lliniarol a diwedd oes.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "darparu mwy na £12.5m y flwyddyn i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn gallu cael y gofal a’r cymorth diwedd oes gorau posibl".
Roedd mam Ceridwen, Joan, wedi codi gwên ar wynebau ei theulu wrth dreulio ei phen-blwydd yn 80 oed yn dawnsio.
Flwyddyn yn ddiweddarach, yn 2020, dysgodd Joan fod ganddi ganser.
Bu farw ychydig wythnosau wedi hynny, gyda’i thair merch wrth ei hochr yn gofalu amdani.
Gydag un o chwiorydd Ceridwen yn nyrs, roedd y teulu yn hyderus bod ganddyn nhw'r gallu i sicrhau bod eu mam yn gyfforddus yn ei dyddiau olaf.
- Cyhoeddwyd12 Awst
- Cyhoeddwyd28 Mehefin
- Cyhoeddwyd7 Mehefin
Ond yn ôl Ceridwen, doedden nhw ddim yn barod am ba mor anodd fyddai’r cyfan.
“O’r cychwyn cyntaf roedd y cyfan yn ddi-drefn. Doedden ni ddim yn gwybod le i fynd am unrhyw beth," meddai.
“Doedden ni ddim yn gwybod lle i gael comôd neu gadair olwyn.
"Roedden ni ar ein pen ein hunain yn gyfan gwbl, o’r cychwyn cyntaf."
Yr her fwyaf, yn ôl Ceridwen, oedd rheoli’r poen a cheisio sicrhau bod ei mam yn gyfforddus.
Doedd nyrsys ardal methu newid meddyginiaeth neu'r poenladdwyr, felly treuliodd Ceridwen ei hamser yn ceisio cael gofal i Joan gan dîm gofal lliniarol.
'Dim y gofal oedd ei angen'
“Roedd mam yn deall ei chorff, roedd hi’n gwybod nad oedd pethau’n gweithio. Doedd neb yn gwrando," meddai.
"Doedden ni ddim yn rhan o’r penderfyniadau ynglŷn â’i gofal hi. Doedden ni ddim gyda’r gofal roedd angen.
“Nid yn unig o’n i’n teimlo ein bod ni ar ein pen ein hun ond y peth gwaethaf oedd teimlo bod Mam yn mynd trwy’r cyfan ar ei phen ei hun hefyd.”
Fe waethygodd Joan o fewn tair wythnos, gyda Ceridwen yn dweud ei bod hi wedi gorfod treulio'r amser prin oedd ar ôl yn gwneud gwaith gweinyddol.
“Doedden ni ddim yn gallu cael sgyrsiau munud olaf gyda hi.”
Yn ôl Ceridwen, roedd cynnydd yn y moddion i'w llonyddu wedi golygu bod dweud hwyl fawr yn iawn yn amhosib.
“Mewn 24 awr roedd fy chwaer wedi gwneud 43 o alwadau er mwyn cael cymorth a doedd neb yn medru'n helpu ni," meddai.
“Ni chawsom unrhyw sgyrsiau munud olaf a hyd yn oed cyn i Mam fod yn gwbl anymwybodol, dywedodd wrth fy chwaer ei bod am siarad â hi, ond doedd fy chwaer methu eistedd i lawr a siarad â hi oherwydd ei bod ar y ffôn yn gyson, yn ceisio cael rhywun i helpu gyda lleddfu’r poen.
“Felly roedd yr anawsterau i ni yn lluosog.”
Ychwanegodd: “Dwi’n meddwl beth fyddai wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i ni fyddai cael rhywun o’r cychwyn cyntaf i drafod y gwahanol gamau - rhywun fyddai wedi gallu rhoi’r wybodaeth iawn ond hefyd i fod yna ar ochr arall y ffôn pan oedd angen.”
'Straen aruthrol ar deuluoedd'
Mae ymchwil gan elusen Marie Curie yn dangos bod nifer o deuluoedd yn teimlo nad ydyn nhw’n barod i ymdopi â gofalu am anwyliaid.
“Mae'n gyfnod anodd iawn ym mywyd rhywun,” meddai Jon Antoniazzi o’r elusen.
“Mae’n rhoi straen aruthrol ar deuluoedd a ffrindiau, ar hyd a lled Cymru.
"Mae yna rai profiadau sy'n wirioneddol dda ac mae'n bwysig pwysleisio hynny.”
Mae’r ymchwil hefyd yn awgrymu bod un ymhob naw person (11%) oedd wedi marw mewn ysbyty yng Nghymru wedi marw o fewn 24 awr, gan awgrymu bod diffyg gofal i bobl sydd ar fin marw yn eu cartrefi eu hunain.
Roedd bron i hanner (47%) y rhoi a holwyd yng Nghymru yn teimlo’n anhapus gydag o leiaf un agwedd o’r gofal roedd eu hanwyliaid wedi derbyn.
Roedd un ymhob 15 person wedi gwneud cwyn ffurfiol.
Yn ôl Mr Antoniazzi mae’r adroddiad “yn datgelu bod yna lawer o dabŵ ynghylch marwolaeth a marw” sy'n profi bod angen gwell sgyrsiau, meddai.
“Un o'r pethau rydyn ni wir eisiau ei annog hefyd yw cael gwell sgyrsiau gyda'ch anwyliaid, ond hefyd gyda'ch gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hefyd, a dechrau dymchwel rhai o'r rhwystrau i fynegi eich dymuniadau o ran yr hyn y byddai rhywun yn ei hoffi ar ddiwedd oes.”
'Darparu mwy na £12.5m y flwyddyn'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Gall gofal lliniarol da wneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd pobl sydd â salwch sy’n cyfyngu ar eu bywyd, gan eu helpu i farw gydag urddas a hwyluso proses alaru iach i’r rhai sy’n cael eu gadael ar ôl.
“Dyna pam rydyn ni’n parhau i ddarparu mwy na £12.5m y flwyddyn i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn gallu cael y gofal a’r cymorth diwedd oes gorau posibl.
“Mae’r Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal Lliniarol a Gofal Diwedd Oes yn bwrw ymlaen â gwelliannau fel gosod safonau cenedlaethol ar gyfer gofal, hybu gwasanaethau yn y gymuned, cefnogi hyfforddiant a datblygiad y gweithlu gofal a gwella gofal profedigaeth fel bod teuluoedd ac unigolion yn cael y cymorth sydd ei angen pan fyddan nhw'n colli anwyliaid.
“Rydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn gallu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt ac rydym wedi darparu cyllid ychwanegol i'w cefnogi pan fydd y person sy’n derbyn gofal yn cael ei dderbyn neu ei ryddhau o’r ysbyty.”