Lluniau: Dydd Mawrth yn y Sioe Frenhinol 2024
- Cyhoeddwyd
Roedd yr haul yn tywynnu ar Lanelwedd ar gyfer ail ddiwrnod y Sioe Frenhinol eleni.

Ymwelwyr di-ri yn Llanelwedd
Hufen iâ i bawb

Roedd tipyn o fynd ar yr hufen iâ yn y Sioe ddydd Mawrth

Roedd y stondinau gelato yn brysur iawn hefyd

Ffermwr ifanc yn arddangos buwch
Oggie, oggie, oggie

Roedd crwst yr 'oggie' wedi'i ddylunio'n wreiddiol i weithwyr y pyllau glo afael ynddo wrth fwyta'r pastai. Roedd y crwst yn dal y llwch glo a baw oddi ar fysedd y gweithwyr gan sicrhau fod gweddill y pastai yn lân i'w bwyta

Y cobiau Cymreig yn y Prif Gylch
Ailenwi adeilad S4C

Caiff adeilad S4C ar faes y Sioe ei adnabod fel Corlan Dai Llanilar nawr er cof am y ffermwr a'r darlledwr hoffus

Mae plac coffa Dai Jones Llanilar yn y lle perffaith i wylio dros y Prif Gylch

Roedd y ceffyl hwn yn cael ei bedoli a'i baratoi ar gyfer mynd i'r Prif Gylch

Y gof wrth ei waith ym Mhafiliwn y Ffarier a Gof

Mae'r cwt geifr yn le poblogaidd gyda theuluoedd

Anest o Lanymddyfri yn mwytho'r geifr

Eitemau lliwgar wedi'u gwneud o wlân gafr
Merched y Wawr

Ychydig o waith buddugol Merched y Wawr Rhanbarth Aberconwy yn y gystadleuaeth crefftau

Jill Lewis, cyn-lywydd Merched y Wawr, gyda Mari Grug a oedd yn westai arbennig mewn derbyniad yn y Sioe ddydd Mawrth
- Adran y stori
Anifeiliaid buddugol

Sharron Nicholas oedd yn arddangos y mochyn buddugol hwn, Dreamboy, yn y gystadleuaeth moch Tamworth

Rhuban coch i'r ceiliog lliwgar yma
Adloniant yn Y Prif Gylch

Parêd y Ceffylau buddugol

Dawns y Jac Codi Baw
Pynciau cysylltiedig
Mwy o'r Sioe
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2024