Lluniau: Dydd Llun yn y Sioe Frenhinol 2024

  • Cyhoeddwyd

Aeth blwyddyn arall heibio ym myd amaeth a honno'n flwyddyn nid heb ei dadleuon i'r ffermwyr.

Ond daeth y gymuned ynghyd heddiw ar ddiwrnod cyntaf y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd i ddathlu'r diwydiant a 120 mlynedd ers y Sioe gyntaf.

Roedd y sied ddefaid y brysur fore Llun cyn diwrnod o gystadlu brwdfrydig.

Un ffermwr a oedd yn cystadlu oedd Emrys Roberts, ac roedd o a'i fab Ollie yn paratoi eu defaid mynydd Cymreig ar gyfer cystadlu.

Disgrifiad o’r llun,

Emrys Roberts a'i fab Ollie

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffit i Ffermio yn gynllun sy'n annog iechyd a lles ymysg ffermwyr

Cynllun ar y cyd rhwng Cyngor Sir Powys (CSP), Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) sy'n cael ei lansio yn y Sioe Frenhinol yw Ffit i Ffermio.

Ei nod yw datblygu gwasanaeth lleol i gefnogi iechyd a lles cymdeithasol y gymuned ffermio ym Mhowys.

Fel rhan o'r cynllun bydd gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd, staff Cyngor Sir Powys ac aelodau'r sector gwirfoddol yn ymweld â marchnadoedd da byw yn Y Trallwng, Aberhonddu a Llanfair ym Muallt bob mis rhwng Awst a Rhagfyr 2024.

Disgrifiad o’r llun,

Cerdded i'r cae cystadlu

Erbyn canol bore 'roedd y cystadlu wedi hen ddechrau a'r gwartheg i gyd yn edrych yn urddasol.

Disgrifiad o’r llun,

Ac mae'r wobr am y fuwch mwyaf lliwgar yn mynd i...

Draw ger y Bandstand roedd Band y Gatrawd Frenhinol Gymreig yn diddanu'r dorf. Yn eu plith roedd Capten Richard Burton a Swyddog Gwarantedig II Ian Richards.

Disgrifiad o’r llun,

Karolina Urbanová o Czechia yn y gystadleuaeth hollti coed

Mae bwyella a hollti coed wedi dod yn un o hoff gystadlaethau'r dorf yn y Sioe. Dechreuodd y gamp fel cystadleuaeth yn y Sioe yn 1972 ac ers hynny mae wedi tyfu'n eithriadol gyda chystadleuwyr yn dod o Awstralia, Ewrop a'r DU.

Karolina Urbanová o Czechia yw pencampwraig y gystadleuaeth Underhand Handicap am y trydydd tro.

Disgrifiad o’r llun,

Hywel Morgan yn cyflwyno tips pysgota ger y llyn ar faes y Sioe

Disgrifiad o’r llun,

Eden, sy'n ddyflwydd a hanner, wedi dod o hyd i bwll tywod i chwarae ynddo!

Draw ar lwyfan Clwb Ffermwyr Ifanc roedd sawl un wedi cymryd sedd i wylio'r cystadlaethau canu.

Disgrifiad o’r llun,

Lowri Hannah o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanrwst

Roedd Lowri'n cystadlu yn y gystadleuaeth canu, gyda hunanddewisiad ar y thema 'Dŵr'. Dewisodd Lowri ganu Tryweryn gan Meic Stevens.

Draw yn y Pentref Bwyd roedd nifer o blant wedi ffeindio ffordd o ddefnyddio'r holl egni o'r danteithion gawson nhw i ginio – dringo!

Disgrifiad o’r llun,

Mynd i'r pentref bwyd i fwyta a dringo!

Daeth yr haul a'r dorf allan ar gyfer perfformiad acwstig gan y band poblogaidd, Bwncath, yn y Pentref Garddwriaeth.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae mor braf clywed dy lais..." y dorf yn mwynhau perfformiad gan Bwncath

Mae BBC Radio Cymru yn darlledu o'r Sioe drwy gydol yr wythnos. Heddiw fe ymunodd cyflwynydd BBC Radio Cymru 2, Dom James, â Tudur Owen am sgwrs ar lwyfan Gwledd yn y Pentref Bwyd.

'Sdim un trip i'r Sioe Fawr yn gyflawn heb ymweld â'r ffair.

Disgrifiad o’r llun,

Mwynhau yn y ffair fach

Ddiwedd y prynhawn roedd y Prif Gylch yn llawn marchogion a cheffylau ar gyfer Gemau Marchogol Brenhinol Cymru. Roedd timau o bob cwr o'r byd yn cystadlu, fel y marchog yma o Dde Affrica.

Ar ôl cyhoeddi ei bwriad i ymgeisio i fod yn arweinydd Llafur Cymru fe gynhaliodd Eluned Morgan gynhadledd i'r wasg yn y Sioe i amlinellu ei gweledigaeth fel prif weinidog.

Dywedodd Ms Morgan y byddai’n cynnig platfform unedig gyda’i chyd-aelod o’r cabinet, Huw Irranca-Davies, yn rhedeg fel ei dirprwy.

Pynciau cysylltiedig