Dysgwyr y Flwyddyn 2025: Hammad Hassan Rind
Dysgwyr y Flwyddyn 2025: Hammad Hassan Rind
- Cyhoeddwyd
Mae Hammad Hassan Rind wedi "darganfod cymaint o ddiwylliant" ers dechrau dysgu Cymraeg lai na dwy flynedd yn ôl.
Mae'n un o'r pedwar sy'n cystadlu yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yr wythnos nesa'.
Wedi'i eni ym Mhacistan, fe symudodd Hammad i Lundain yn gyntaf, cyn mynd i Gaerdydd ar ôl cael swydd yno.
"Mae'n ddiddorol achos dwi wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers 11 mlynedd," meddai, "ond dwi wedi bod yn ddiog braidd gyda Cymraeg achos dim ond dwy flynedd yn ôl dechreues i ddysgu."
'Ddim yn gwybod lot' am y Gymraeg
Mae'n cyfaddef nad oedd yn ymwybodol iawn o Gymru na'r Gymraeg yn wreiddiol.
"Symudais i i Brydain tua 15 mlynedd yn ôl, ac a bod yn onest do'n i ddim yn gwybod lot am y Gymraeg pan o'n i'n byw yn Llundain.
"Hyd yn oed ar ôl i fi symud i Gaerdydd, pan d'on i ddim yn siarad Cymraeg, roedd 'na lot o bethe ro'n i'n anwybodus amdanyn nhw, felly mae'n hawdd i anwybyddu y diwylliant Cymreig os da chi ddim yn siarad Cymraeg."
Mae Hammad a'i wraig, Charlotte, wedi bod yn dysgu ar gwrs dwys gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd, gan gael gwersi pedair gwaith yr wythnos.

Cafodd Hammad Hassan Rind ei eni ym Mhacistan, a symud i Lundain ac yna Caerdydd
Yn ôl ei diwtor, Yvonne Evans, roedd yn amlwg o'r dechrau bod ganddo ddawn ieithyddol.
"Roedd e'n arbennig o dda yn gafael yn yr iaith a doedd dim yr anhawsterau gyda fe, oedd gydag eraill dwi wedi dysgu yn y gorffennol.
"Roedd e'n dangos y dealltwriaeth o ramadeg reit o'r dechrau, ac mae diddordeb gyda fe mewn gramadeg, mae'n gofyn cwestiynau gramadegol yn aml yn y dosbarth."
Yn ogystal â'r Gymraeg, mae Hammad yn siarad sawl iaith arall - cafodd ei fagu yn siarad Wrdw a Punjabi, ond mae hefyd wedi dysgu Saesneg, Perseg, Tyrceg, Arabeg, Ffrangeg, Eidaleg, a Yiddish.

Mae Hammad a'i wraig, Charlotte, yn dysgu ar gwrs dwys gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd
Mae'n dweud bod dysgu'r Gymraeg wedi bod yn heriol ar adegau
"Mae'r Gymraeg yn wahanol i bob iaith dwi wedi eu dysgu o'r blaen - dydyn nhw ddim yn perthyn i'r un teulu ieithyddol er enghraifft, felly roedd yn ychydig o her, ond dwi wedi hoffi'r broses yma yn fawr.
"Pan 'da chi'n dysgu un iaith, mae'r broses o ddysgu iaith arall yn dod ychydig yn haws hefyd achos 'da chi'n dod i adnabod patrymau gramadeg."
Beirniad Llyfr y Flwyddyn
Mae'n dysgu Cymraeg i fewnfudwyr a ffoaduriaid gyda Made in Roath, gan ddefnyddio'r ieithoedd eraill mae'n eu siarad i gyfathrebu wrth ddysgu.
Mae hefyd yn aelod o grŵp o wirfoddolwyr sy'n cydweithio i ddod â mwy o weithgareddau Cymraeg i ardal Grangetown yng Nghaerdydd.
Dros y misoedd diwethaf mae Hammad wedi bod yn ysgrifennu barddoniaeth, erthyglau a straeon yn y Gymraeg, ynghyd â chyfieithu cerddi o'r Arabeg i'r Gymraeg.
Roedd yn un o feirniaid cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae'n dweud bod gallu darllen gwaith ei ffrindiau yn un o'r rhesymau dros ddechrau dysgu'r Gymraeg.

Hammad Rind gyda'i gyd feirniaid yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2025, Menna Elfyn, Gwenllian Ellis a Miriam Elin Jones
Yn ôl ei diwtor, Yvonne Evans, mae'r ffaith fod Hammad wedi cyrraedd y rownd derfynol yn hwb mawr.
"Mae'n gyhoeddusrwydd da i ni, yn dangos bod na bobl sy'n cyflawni ac yn dysgu'r iaith i lefel lle maen nhw'n gallu byw yn y Gymraeg", meddai.
Mae'r Gymraeg yn ail iaith i Yvonne, ac mae'n dweud bod dysgu'r iaith wedi newid ei bywyd, ac "mae'n siwr bydd y Gymraeg yn newid bywyd Hammad hefyd er gwell".
O ran cyngor i bobl eraill sy'n dysgu, mae Hammad yn dweud bod dilyn cwrs dwys wedi bod o gymorth iddo.
"Mae'r cysondeb wedi fy helpu i yn fawr," meddai
Mae cyrraedd y rownd derfynol yn "deimlad grêt a bod yn onest, achos dwi wedi bod yn gweithio'n galed ar fy Nghymraeg i."
Mae'n "edrych ymlaen yn arw" at y gystadleuaeth, fydd yn cael ei chynnal yn y Pafiliwn ar ddydd Mercher yr Eisteddfod, ac yn edrych ymlaen at wersylla gyda'r teulu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl