Trais mewn ysgolion: 'Angen gwrando ar farn pobl ifanc'

Mae disgyblion Ysgol y Creuddyn wedi bod yn trafod eu profiadau gyda swyddogion ac aelodau'r Senedd Ieuenctid
- Cyhoeddwyd
Gyda thrais mewn ysgolion ar gynnydd mae Senedd Ieuenctid Cymru'n dweud bod clywed barn pobl ifanc am ymddygiad mewn ysgolion yn flaenoriaeth.
Mae'r Senedd yn bwriadu rhoi sylw arbennig i hyn drwy gynnal arolwg ymhlith disgyblion ar draws Cymru er mwyn clywed safbwyntiau gwahanol.
Daw'r cam yma yn dilyn ymosodiad gan ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Aman yn 2024 lle cafodd dwy athrawes eu trywanu.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae unrhyw drais mewn ysgolion yn cael ei gondemnio ac maen nhw'n gweithio gydag ysgolion i fynd i'r afael â'r mater.
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Bwriad aelodau Senedd Ieuenctid Cymru ydy holi disgyblion am eu profiadau nhw o ymddygiad mewn ysgolion, gan holi am unrhyw bryderon a rhannu ymarfer da.
Yn ôl ymchwil gan undeb addysg NASUWT Cymru, fe gafodd 6,466 o achosion o drais mewn ysgolion eu cofnodi gan awdurdodau lleol yng Nghymru rhwng 2023-2024.
Y ffigwr yn y flwyddyn flaenorol oedd 4,714.

Roedd profiadau personol rhai o aelodau'r Senedd Ieuenctid yn "ysbrydoliaeth" yn ôl Lex
Disgyblion Ysgol y Creuddyn ym Mae Penrhyn oedd y cyntaf i gael cyfle i drafod gyda swyddogion ac aelodau i rannu eu profiadau.
Yn ôl Lex, sy'n aelod o'r Senedd Ieuenctid, mae'r hyn ddigwyddodd yn Ysgol Dyffryn Aman wedi ysgogi trafodaeth.
"Mi roedd llawer o'r aelodau wedi rhoi areithiau really da am droseddau a digwyddiadau personol iddyn nhw," meddai.
"Roedd un aelod yn ddisgybl mewn ysgol oedd wedi cael trosedd eithaf gwael ac oherwydd hynny dyma ni'n meddwl bod yn rhaid i ni gymryd ysbrydoliaeth.
"Un o'r rhesymau mwyaf [i ni ddewis y pwnc] oedd oherwydd bod o'n digwydd i ni rŵan yn aml ac roeddem yn teimlo bod ni'n gallu cael effaith."
'Dim dwywaith bod ymddygiad wedi gwaethygu'
Gydag ymchwil undeb addysg yr NASUWT Cymru yn dweud bod 35.5% o staff a gafodd eu holi wedi dioddef ymosodiad corfforol tra'n gweithio, a 92% wedi cael eu cam-drin yn eiriol, mae undebau'n poeni am yr effaith ar y gweithlu.
"Does dim dwywaith bod ymddygiad wedi gwaethygu," medd Ioan Rhys Jones o undeb UCAC.
"Mae'r pryder sydd gan ein haelodau ni yn bryderon real iawn, a does dim syndod bod gan ddisgyblion bryder, mae gan athrawon bryder.
"Pryder drostyn nhw eu hunain, ond yn bwysicach, am y plant ac mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â hynny a sicrhau bod y llywodraeth yn cynnig arweiniad o safon."

Mae'r Senedd Ieuenctid yn gobeithio clywed am arferion da mewn ysgolion hefyd, meddai Caryl Mai Hughes
Mae disgyblion rŵan yn cael eu hannog i rannu profiadau.
"Maen nhw eisiau edrych mewn i pam bod pethau fel hyn yn digwydd", meddai Caryl Mai Hughes, Swyddog Addysg ac Ymgysylltiad Pobl Ifanc Senedd Cymru.
"Oes rhywbeth ma' modd ei wneud i wella perthnasoedd mewn ysgolion rhwng disgyblion a staff?
"Maen nhw hefyd eisiau gweld be sy'n gweithio'n dda mewn ysgolion ledled Cymru a mabwysiadu hynny."

Mae Heledd (chwith) ac Elowen (dde) yn teimlo fod y sefyllfa o ran ymddygiad yn dechrau gwella yn yr ysgol
Gyda phryder ar draws y byd addysg bod cyfnod y pandemig wedi cyfrannu'n helaeth at newid mewn ymddygiad ac agweddau, yn ôl rhai disgyblion yn Ysgol y Creuddyn maen nhw'n teimlo bod y sefyllfa yn dechrau gwella.
"Dwi'n teimlo bod o wedi gwella," meddai Elowen o flwyddyn 11.
"Mae'r ysgol yn shutio down unrhyw bethau [drwg] sy'n digwydd a dwi'm yn teimlo bod o'n mynd yn waeth."
Barn debyg oedd gan Heledd, sydd hefyd ym mlwyddyn 11.
"Os mae cam-drin staff yn digwydd mae'r system cosbi newydd yn cau hwnna lawr ac yn gwneud yn siŵr nad ydi o'n digwydd eto."
Dywedodd y ddwy fod nifer o systemau newydd yn eu lle bellach sydd hefyd yn cynnig cymorth i ddisgyblion gydag aelodau o staff penodedig y mae modd troi atynt os oes unrhyw bryder gan ddisgyblion.
'Unrhyw drais yn annerbyniol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae unrhyw fath o gam-drin neu drais mewn ysgolion yn gwbl annerbyniol ac rydym yn croesawu ymrwymiad Senedd Ieuenctid Cymru i edrych ar y materion pwysig hyn.
"Rydym yn gweithio gyda'r sector addysg i fynd i'r afael â phryderon ymddygiad mewn ysgolion ac i wneud nhw'n fannau diogel i staff a dysgwyr gan adeiladu ar yr hyn gafodd ei drafod yn ein cynhadledd ymddygiad diweddar.
"Bydd yr Ysgrifennydd Addysg yn mynychu cyfarfod Senedd Ieuenctid Cymru ym mis Tachwedd i glywed canlyniadau'r gwaith pwysig hwn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.