Athrawes 'methu dychmygu mynd yn ôl i'r gwaith' ar ôl cael ei thrywanu

Liz Hopkin
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Liz Hopkin na allai dychmygu dychwelyd i'r gwaith na mynd ar gyfyl yr ysgol ers yr ymosodiad fis Ebrill y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae athrawes a gafodd ei thrywanu gan ferch yn Ysgol Dyffryn Aman y llynedd yn dweud nad yw hi'n gallu dychmygu dychwelyd i'r gwaith.

Cafodd Liz Hopkin, ynghyd â Fiona Elias a disgybl, ei thrywanu yn ystod amser egwyl yr ysgol yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin ar 24 Ebrill 2024.

Cafodd y ferch, a oedd yn 13 oed ar y pryd ac nad oes modd ei henwi, ei dedfrydu i 15 mlynedd o garcharyn gynharach eleni ar ôl i reithgor ei chael yn euog o geisio llofruddio'r tair.

Yn ei chyfweliad cyntaf ers yr ymosodiad, dywedodd Ms Hopkin iddi afael yn y ferch wrth iddi drywanu Ms Elias a gweiddi "dw i'n mynd i dy ladd di".

"Mae hi wedi bod yn amser hir ond mae'n dal yn fyw iawn yn fy mhen," dywedodd Ms Hopkin wrth BBC Cymru.

"Roedd bwriad yno. Pe bai Fiona wedi bod yno ar ei phen ei hun, byddai'r cyfan wedi bod yn wahanol iawn.

"Fe wnaeth hi fy nhrywanu yn y goes ac yna daeth hi tuag ata'i a fy nhrywanu yn y ngwddf ac yna ddwywaith yn y cefn."

'Daeth popeth i ben y diwrnod hwnnw'

Roedd y ferch wedi dweud wrth ei chyd-ddisgyblion ar fore'r ymosodiad y byddai'n trywanu Ms Elias.

Dywedodd Liz Hopkin nad oedd hi'n adnabod y ferch a dim ond ar ôl yr ymosodiad y dysgodd ei henw.

"Roedd cymaint o blant o gwmpas ac roeddwn i eisiau eu cadw'n ddiogel," ychwanegodd.

"Roeddwn i'n meddwl mai dyna oedd y diwedd i fi.

"Dydw i ddim wedi bod yn ôl i'r gwaith. Alla'i ddim dychmygu gwneud y gwaith hwnnw eto byth, alla'i ddim dychmygu mynd i mewn i ysgol, alla'i ddim mynd heibio i flaen yr ysgol.

"Rwy'n teimlo bod gen i lawer i'w gynnig ond daeth popeth i ben y diwrnod hwnnw."

Disgrifiad,

Cafodd lluniau camera cylch cyfyng o'r digwyddiad eu dangos i'r rheithgor yn yr achos llys yn erbyn y ferch

Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Abertawe yn gynharach eleni, clywodd y rheithgor y byddai'r ferch yn cario cyllell i'r ysgol bob dydd.

Cafodd adolygiad ei gyhoeddi ddydd Mercher a oedd yn amlinellu manylion newydd ynglŷn â sut roedd y ferch yn cael ei rhyfeddu gan ryfel ac arfau.

Awgrymodd yr adroddiad fod gan y ferch gefndir cythryblus ers ei phlentyndod ac heriau iechyd meddwl.

Gwnaeth yr awdur, Gladys Rhodes White OBE, 11 o argymhellion i asiantaethau a chanfod y byddai'r ferch wedi elwa o "gymorth wedi'i dargedu" pe bai "gwybodaeth wedi'i rhannu a'i hasesu'n llawn".

Fiona Elias a Liz Hopkin
Disgrifiad o’r llun,

Fiona Elias a Liz Hopkin tu allan i'r llys wedi i reithgor gael y ferch yn euog o geisio eu llofruddio

Dywedodd Ms Hopkin ei bod yn croesawu'r adroddiad ond bod ganddi bryderon o hyd.

"Nid yw'r argymhellion a'r hyn sydd wedi dod i'r amlwg yn yr adroddiad yn unrhyw beth newydd," meddai.

"Gan feddwl bod adegau, lle efallai, y gallai pobl neu asiantaethau yn benodol fod wedi trafod neu rannu gwybodaeth a gweithio gyda'i gilydd, gallai hynny fod wedi gwneud gwahaniaeth enfawr.

"Yr hyn a fydd o gymorth yw os yw pobl yn cymryd yr adroddiad o ddifri'.

"Does dim digon o weithredu. Dw i am i lywodraeth Cymru fod yn edrych yn fanylach i pam fod y sefyllfaoedd hyn yn digwydd. Does dim wedi newid."

Digwyddiad Ysgol Dyffryn Aman
Disgrifiad o’r llun,

Cerbydau'r gwasanathau brys tu allan i'r ysgol ddiwrnod yr ymosodiad ym mis Ebrill 2024

Mae ei galwadau wedi cael eu hadleisio gan undebau a gwleidyddion.

Dywedodd Cefin Campbell, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, ddydd Mercher fod yr adroddiad yn amlygu'r angen am gydweithio gwell rhwng asiantaethau.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin, pennaeth Ysgol Dyffryn Aman, Heddlu Dyfed-Powys a Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn "cydnabod yr amgylchiadau heriol ac anodd y mae'r dioddefwyr a'r gymuned gyfan yn eu hwynebu" ar ôl y digwyddiad.

"Rydym wedi derbyn yr adroddiad annibynnol mewn perthynas â'r Fforwm Proffesiynol Aml-Asiantaeth (MAPF), a byddwn yn gweithio gyda'r holl bartneriaid i ddatblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'i argymhellion."

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n cymryd camau gweithredu yn dilyn ein cynhadledd ddiweddar ar ymddygiad, gan gynnwys gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu dulliau mwy effeithiol, amlasiantaethol ar gyfer mynd i'r afael â phroblemau ymddygiad mewn ysgolion."