Ymgyrchwyr yn galw am ddyfodol sicr i Ysgol Gymraeg Llundain

Mae ymgyrchwyr yn paratoi i gwrdd â Llywodraeth Cymru ddiwedd y mis
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr Ysgol Gymraeg Llundain yn galw am ddyfodol sicrach i'r ysgol ar ôl cynnal cyfarfod gyda Chymry Llundain nos Fercher.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd grant blynyddol yr ysgol o £90,000 yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd bresennol.
Yn y cyfarfod, galwodd ymgyrchwyr ar y llywodraeth i "gydnabod gwerth yr ysgol" ac i roi cyfnod i'r ysgol i sicrhau ei dyfodol yn Llundain.
Dywedodd ymgyrchwyr eu bod yn benderfynol o "newid y naratif" a chodi hyder ymhlith rhieni, gan ddisgrifio'r ysgol fel "calon" y Gymraeg yn y brifddinas.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn parhau "i fod yn ymrwymedig i hyrwyddo'r Gymraeg yn Llundain".
Y sefyllfa bresennol
Ar hyn o bryd, mae Ysgol Gymraeg Llundain yn derbyn grant blynyddol o £90,000 gan Lywodraeth Cymru drwy raglen Cymraeg 2050 - strategaeth genedlaethol i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yn gynharach eleni, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan fod yr ysgol "ar dir sigledig", ac fe wnaeth hi gwestiynu cynaliadwyedd yr ysgol gan nodi mai dim ond 10 disgybl sydd yn mynychu'r ysgol eleni.
Dywedodd y llywodraeth eu bod yn parhau i adolygu'r ffordd fwyaf effeithiol o hyrwyddo'r Gymraeg yn Llundain yn ariannol, gan ystyried opsiynau y tu hwnt i'r ysgol.
Ond, mae ymgyrchwyr Ysgol Gymraeg Llundain yn dadlau mai'r ysgol yw'r modd "mwyaf effeithiol o hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn Llundain."

Mewn cyfarfod yng Nghanolfan Cymry Llundain nos Fercher dywedodd ymgyrchwyr eu bod yn benderfynol o godi hyder ymhlith rhieni
Dywedodd Llinos Griffiths, un o brif ymgyrchwyr yr ysgol, fod y grŵp yn paratoi i gwrdd â Llywodraeth Cymru ar 28 Tachwedd i drafod camau pellach ac i alw am sicrwydd.
Ychwanegodd, "Os yw'r ysgol yn mynd, byddai'n teimlo fel nad yw Llywodraeth Cymru'n poeni digon am y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg.
"Mae angen newid y persbectif. Petawn ni wedi edrych ar yr iaith am ei niferoedd yn unig fyddai hi ddim yn fyw nawr. Yr effaith sy'n cadw'r iaith yn fyw."
'Dim opsiwn arall'
Pwysleisiodd athrawes arweiniol yr ysgol, Emilia Davies, fod yr ysgol yn meithrin cymuned Gymraeg ehangach trwy weithgareddau fel grŵp babanod a rhieni Miri Mawr, sy'n parhau i dyfu.
Dywedodd nad oes unrhyw opsiwn arall ar gyfer addysg Gymraeg yn Lloegr, gan ychwanegu fod yr ysgol hefyd wedi ysbrydoli nifer o rieni i ddysgu neu ailgydio yn eu Cymraeg.
"Falle dim ond 10 disgybl sydd yn yr ysgol, ond mae'n mynd tu hwnt i hwnna - mae rhieni nawr yn siarad Cymraeg eto. Nid dim ond y 10 disgybl yna mae'r iaith yn cyrraedd."

Mae Courtney Manel yn astudio ac yn perfformio yn y Gymraeg, gan ddweud bod Ysgol Gymraeg Llundain wedi rhoi'r hwb iddi
Mae'r cyn-ddisgybl Courtney Manel bellach yn astudio Cymraeg ac Ieithoedd Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn dweud y byddai ei bywyd wedi bod yn "hollol wahanol" heb yr ysgol.
"Oherwydd fy mod i wedi cael bywyd Cymraeg drwy'r ysgol o'n i'n gallu mynychu cyrsiau'r Urdd fel Merched yn Gwneud Miwsig, teithiau i Iwerddon yn ogystal â pherfformio ar lwyfannau Eisteddfod."

Mae Macsen Brown yn astudio ieithoedd ac yn dweud bod addysg Gymraeg yn Llundain wedi ei helpu
Mae cyn-ddisgybl arall, Macsen Brown, sydd wedi gorffen ei radd mewn Ffrangeg a Rwsieg ym Mhrifysgol Caergrawnt ac yn parhau yno i wneud gradd Meistr, yn dweud bod yr ysgol wedi agor drysau iddo.
Dywedodd fod tyfu i fyny yn ddwyieithog yn y brifddinas, lle mae llawer o blant eraill yn siarad mwy nag un iaith, wedi gwneud iddo deimlo'n "fwy fel Llundeiniwr" drwy fynd i Ysgol Gymraeg Llundain.
"Dwi 'di dysgu ieithoedd eraill fel Ffrangeg a Rwsieg a dwi'n hollol sicr wnaeth y cyfle i fyw yn Gymraeg fy helpu i gyda hynny."
Morgan yn cwestiynu 'cynaliadwyedd' Ysgol Gymraeg Llundain
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf
Oes ffordd well o wario arian i hybu'r Gymraeg yn Llundain? - Drakeford
- Cyhoeddwyd25 Mehefin
'Blynyddoedd heriol tu hwnt' yn wynebu Ysgol Gymraeg Llundain
- Cyhoeddwyd13 Mawrth
Dywedodd Llywodraeth Cymru, "Yn yr un modd a gydag unrhyw raglenni grantiau, mae ein cyllid i hyrwyddo'r Gymraeg yn destun proses ymgeisio a byddwn yn rhannu manylion y broses ymgeisio nesaf gyda'r ysgol yn fuan.
"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i hyrwyddo'r Gymraeg yn Llundain."