Arolwg Barn yn rhagweld mwyafrif i'r Blaid Geidwadol

  • Cyhoeddwyd
CyfriFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae canlyniad arolwg barn o'r gorsafoedd pleidleisio ar y cyd gan BBC, ITV a Sky newydd gael ei gyhoeddi wedi i'r blychau pleidleisio gau am 22:00.

Mae'r arolwg yn awgrymu mai'r Ceidwadwyr fydd y blaid fwyaf, os yw canlyniadau'n gywir.

Gallwch gael y newyddion diweddara a'r canlyniadau ar lif byw arbennig Cymru Fyw.

Canlyniad yr arolwg barn

  • Bydd y Ceidwadwyr â 368 o seddi - 50 yn fwy nag yn etholiad 2017.

  • Bydd gan y Blaid Lafur 191 o seddi - 71 yn llai na 2017.

  • Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol â 13 sedd, un sedd yn fwy na'r etholiad yn 2017.

  • Bydd Plaid Cymru â thair sedd - colled o un.

  • Bydd yr SNP gyda 55 - cynnydd o 20 sedd.

  • Bydd y Blaid Werdd yn parhau'r un fath gydag un sedd.

  • Ni fydd gan Blaid Brexit unrhyw sedd.

  • Mae cynnydd o un i'r pleidiau eraill.

Roedd 216 o ymgeiswyr yn brwydro am 40 o seddi yng Nghymru.

Mae tua 2.2 miliwn o oedolion yn gymwys i bleidleisio yng Nghymru, ac fe wnaeth 68% o'r rheiny oedd yn gymwys yn 2017 daro eu pleidlais.

Roedd y Ceidwadwyr a Llafur yn sefyll ymhob un o'r 40 etholaeth yng Nghymru.

Roedd Plaid Cymru yn sefyll mewn 36 etholaeth a'r Democratiaid Rhyddfrydol mewn 32 fel rhan o gytundeb etholiadol Pleidiau Aros.

Mae Plaid Brexit yn sefyll mewn 32 etholaeth ar ôl penderfynu peidio cystadlu yn y seddau a enillwyd gan y Ceidwadwyr yn 2017.

Roedd Y Blaid Werdd yn sefyll mewn 18 o etholaethau.

Nid oedd UKIP - a safodd mewn 32 o etholaethau yn etholiad cyffredinol 2017 - yn rhoi unrhyw ymgeiswyr ymlaen yng Nghymru y tro hwn.

Mae disgwyl y canlyniadau cyntaf yn oriau mân ddydd Gwener, ac mae disgwyl cadarnhad erbyn y bore pa blaid fydd yn fuddugol.