Vaughan Roderick

Vaughan Roderick is the BBC Wales' Welsh affairs editor. Mae Vaughan Roderick wedi gweithio i BBC Cymru ers 1978 gan ohebu ar bob etholiad a refferendwm ers hynny. Fe gyfrannodd yr adroddiad cyntaf ar fwletin newyddion cyntaf S4C yn 1982 ac mae'n ymddangos yn gyson ar ystod eang o wasanaethau Cymreig a Phrydeinig y BBC. Mae'n un o gyflwynwyr Newyddion 9: Y Sgwrs ar S4C, ac mae e hefyd yn cyflwyno 'O'r Bae' ar BBC Radio Cymru a 'Sunday Supplement' ar BBC Radio Wales. Gellir cael hyd i archif y blog o Ebrill 2007-Ebrill 2013.