Blog Vaughan Roderick: 'Talcen caled yn wynebu Gething'

  • Cyhoeddwyd
Vaughan Gething yn dathlu gyda'i wraig Michelle a'i fab IsaacFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Gething yn dathlu gyda'i wraig Michelle a'i fab Isaac ar ôl cael ei ethol ddydd Sadwrn

"Mae hi fel '99 drosodd a thro" - geiriau un Aelod o'r Senedd rhai dyddiau yn ôl pan ddaeth hi'n weddol amlwg mai Vaughan Gething fyddai'n fuddugol yn y ras i arwain Llafur Cymru.

Gan fod yr aelod hwnnw yn cynrychioli un o'r gwrthbleidiau roedd yn glafoerio ynghylch y rhagolygon gwleidyddol, ond mae 'na sawl aelod ar y meinciau Llafur sydd hefyd yn gweld pethau'n gyffredin rhwng buddugoliaeth Mr Gething ac ethol Alun Michael chwarter canrif yn ôl.

Fel bryd hynny roedd yr etholiad yn un agos gyda chwestiynau'n cael eu codi am rôl yr undebau yn yr ornest ac fel yn 1999 fe fydd aelodau Llafur yn y Senedd yn cael eu harwain gan ddyn oedd yn ail ddewis i'r mwyafrif.

Ond yn wahanol i'r ornest rhwng Alun Michael a Rhodri Morgan does neb yn credu mai ymyrraeth o Lundain wnaeth sicrhau'r arweinyddiaeth i Vaughan Gething.

Os oedd yna ffics, yng Nghymru y cynhyrchwyd y ffics hwnnw.

'Cymdeithas wedi newid'

Efallai'n wir mae'n ddigon posib bod Mr Gething, ar ôl tair degawd fel actifydd Llafur, yn deall yn well na Mr Miles beth yn union oedd rhaid ei wneud i sicrhau buddugoliaeth.

Beth bynnag yw'r gwirionedd mae 'na dalcen cael yn wynebu Vaughan Gething.

Yn gyntaf fe fydd yn rhaid iddo geisio uno'r grŵp yn y senedd a phrofi nad yw ei fandad yn sigledig.

Gallwn ddisgwyl iddo gynnig swydd fawr i Jeremy Miles ond fe fydd angen iddo gydbwyso hynny â'r angen i wobrwyo rhai o'i gefnogwr.

Ar ôl hynny gallwn ddisgwyl i Lafur Cymru ymdawelu gan adael maes y gad yn glir i Keir Starmer a'i ymgyrch etholiad.

Fe ddaw prawf mawr Mr Gething yn 2026 pan gynhelir etholiad Cymreig gyda system bleidleisio lai ffafriol i Lafur na'r un bresennol.

Mae hynny i gyd i ddod a chyn hynny mae'n werth nodi natur hanesyddol yr ornest rhwng dyn du a dyn hoyw agored.

Mae'n arwydd o gymaint y mae'n cymdeithas wedi newid nad oedd bron neb yn gweld unrhyw beth anarferol na rhyfedd yn hynny.

I ddyfynnu Martin Luther King, o hyn ymlaen fe fydd Mr Gething yn cael ei farnu ar sail cynnwys ei gymeriad yn hytrach na lliw ei groen.

Pynciau cysylltiedig