Posibilrwydd o fwy o ffermydd gwynt

  • Cyhoeddwyd
Tyrbinau gwynt (cyffredinol)Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Mae'n bosibl y bydd mwy o ffermydd gwynt yn cael eu codi yng Nghymru er budd y Deyrnas Unedig, yn ôl Gweinidog Ynni San Steffan, Charles Hendry.

Gallai hynny olygu fod peilonaPosibilrwydd o fwy o ffermydd gwyntu yn cael eu codi yn groes i ewyllys pobl leol.

Ddydd Iau fe deithiodd ymgyrchwyr o ganolbarth Cymru i'r Senedd yng Nghaerdydd i brotestio yn erbyn rhagor o dyrbinau yn y canolbarth.

Llywodraeth San Steffan sydd â'r gair olaf wrth benderfynu ar geisiadau mawr i godi ffermydd gwynt yng Nghymru.

Rhwydwaith

Mae yna saith ardal yng Nghymru wedi eu clustnodi ar gyfer datblygiad ffermydd gwynt, fel rhan o bolisi Tan 8.

Dywedodd Mr Hendry wrth BBC Cymru: "Y rheswm pam fod hwn yn benderfyniad cenedlaethol yw ein bod yn gwneud penderfyniadau er budd y genedl.

"Ydi mae barn leol yn bwysig ac mae hynny'n rhan statudol o'r broses.

Dywedodd fod angen rhwydwaith er mwyn cludo ynni o un man i'r llall.

Dywedodd Jonathan Wilkinson, llefarydd Sir Drefaldwyn yn erbyn Peilonau, eu bod am atgoffa aelodau'r cynulliad o'r gwrthwynebiad cryf sydd yna yn y canolbarth i dyrbinau.

"Pe bai nhw'n angenrheidiol neu beidio y peth cyntaf dylid ei wneud ydi ymgynghori gyda chymunedau lleol, rhywbeth sydd heb ddigwydd hyd yn hyn. "

Ym mis Mehefin dywedodd Carwyn Jones y dylai canllawiau cynllunio llywodraeth gael eu hystyried fel yr uchafswm ar gyfer nifer y ffermydd gwynt.

Cydweithio

Ddydd Gwener mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd ei fod am sicrhau lefel uchel o gynhyrchu trydan o ddulliau cynaliadwy ar dir ac ar y môr.

Roedd Cymru "ar agor ar gyfer busnes" ac yn cydweithio gyda'r diwydiant, meddai.

Mae disgwyl cyhoeddiad mwy manwl am bolisi ynni yn y flwyddyn newydd.

"Mae yna gyfyngiadau i hynny. Rydym ni wedi datgan ein barn yn glir yn Tan 8.

"Ond mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth gwrs wedi dweud y byddant yn anwybyddu Tan 8 - dyna'r broblem."

Dywedodd fod yn rhaid i'r wlad sicrhau nad ydym yn or-ddibynol ar ynni drud o dramor.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol