Mynd i ddwylo'r gweinyddwyr

  • Cyhoeddwyd
PeacocksFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae Peacocks yn cyflogi dros 400 o bobl yng Nghaerdydd

Mae cwmni Peacocks wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr sy'n golygu bod 9,600 o swyddi mewn peryg.

Dywedodd cwmni KPMG eu bod wedi cael eu penodi'n weinyddwyr.

Mae Peacocks yn cyflogi dros 400 o bobl yng Nghaerdydd a bron 10,000 yn y Deyrnas Gyfunol.

Mae'r cwmni'n berchen ar 611 o siopau ond dywedodd KPMG y byddai'r siopau'n aros ar agor wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i brynwr newydd.

Dywedodd prif weithredwr y cwmni, Richard Kirk: "Mae'n drist iawn mai hwn yw'r unig opsiwn.

"Ers blwyddyn rydyn ni wedi gweithio'n ddiflino er mwyn ceisio cytuno stwrythur ariannol newydd fyddai'n golygu y gallwn ni symud ymlaen yn yr hinsawdd economaidd anodd.

"Mae'r newyddion yn drist iawn, yn enwedig i'n staff sy wedi ymroi'n llwyr i'r busnes yn ystod cyfnod ansicr ac anodd.

Gobeithio

Dywedodd ei fod am ddiolch i'w gydweithwyr oherwydd eu gwaith caled a'u hymroddiad.

Mae'r Gweinidog Cyflogaeth, Chris Grayling, wedi dweud ei fod yn gobeithio y byddai'r cwmni'n cael ei werthu ond bod y newyddion diweddara'n "siomedig".

Ynghynt roedd Aelodau Seneddol Llafur Cymru wedi galw ar Ysgrifennydd Busnes San Steffan i gymryd camau i achub y cwmni.

Mewn llythyr at Vince Cable rhybuddiodd yr ASau y gallai'r cwmni Cymreig gael eu gorfodi i'w rhoi yn nwylo'r gweinyddwyr am "fod banciau yn gwrthod darparu cyfalaf pellach".

Roedd Gweinidog Busnes Cymru, Edwina Hart, wedi dweud ei bod yn trafod gyda Llywodraeth San Steffan.

Cyhoeddwyd ddydd Mawrth fod gan Peacocks 10 niwrnod i ganfod buddsoddwr newydd cyn y byddan nhw'n cael eu rhoi yn nwylo'r gweinyddwyr.

'Ymholiadau'

Roedd 26 o ASau Llafur Cymru mewn ardaloedd lle mae Peacocks yn gyflogwr allweddol wedi arwyddo'r llythyr.

"Fe fydden ni'n apelio arnoch chi i wneud ymholiadau yn syth i faterion ariannol y cwmni, statws masnach a pherthynas y cwmni gyda'r RBS, banc y mae'r wladwriaeth yn berchen ar y rhan fwyaf ohono (80%)," meddai'r llythyr.

"Rydym yn credu bod y problemau y mae'r cwmni yn eu hwynebu, yn rhannol, oherwydd penderfyniadau economaidd y llywodraeth glymblaid, yn benodol y penderfyniad i gynyddu TAW ...

"Rydym yn galw arnoch chi i gydnabod hyn ac i annog y Canghellor a chyd-aelodau yn y cabinet i gyflwyno cynllun tyfiant a fyddai yn adfer hyder cwsmeriaid a rhoi hwb i'n siopau stryd fawr, gan gynnwys Peacocks."

Adolygiad

"Mae'n gyfnod pryderus i'r unigolion, teuluoedd a chymunedau y mae'r newyddion am Peacocks yn effeithio arnyn nhw," meddai llefarydd ar ran Adran Busnes San Steffan fore Mercher.

"Mae'r llywodraeth yn cymryd camau i gynorthwyo siopau drwy gwtogi Yswiriant Cenedlaethol, rhoi cymorth trethi i siopau bach a chynnal polisi cynllunio canol trefi.

"Yn gynharach yn y mis fe wnaeth Mary Portas gyhoeddi adolygiad fydd yn cynnig gweledigaeth glir sut y gallwn greu canol trefi amrywiol a bywiog a rhoi bywyd yn ôl i'r stryd fawr.

"Fe fydd y llywodraeth yn ystyried yr argymhellion a byddwn yn ymateb yn y gwanwyn sut i symud ymlaen a helpu ein siopau a siopwyr sy'n chwarae rhan allweddol yn ein heconomi."