Siopau Bonmarché wedi'u prynu gan grŵp ariannol
- Cyhoeddwyd
Mae siopau ffasiwn Bonmarché, rhan o Grŵp Peacocks, wedi cael ei brynu am swm anhysbys gan grŵp ariannol Sun European Partners.
Ond mae ofnau y gallai'r cytundeb arwain at 1,000 o ddiswyddiadau.
Dywed y cwmni, sydd wedi prynu pob un heblaw am dair o'r siopau, y bydd 230 o'r siopau yn parhau yn agored ond y byddan nhw'n cau tua 160.
Mae Sun hefyd yn berchen ar y brandiau Alexon a Jacques Vert.
Cafodd Peacocks ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr yr wythnos ddiwetha', ar ôl ceisio'n aflwyddiannus i ailstrwythuro dyledion gwerth £240 miliwn.
Fe brynwyd Bonmarché o dan gytundeb lle mae trefniadau cwmni sy'n methdalu wedi'u gwneud cyn i'r broses fethdalu gael ei chwblhau.
'Amodau anodd'
O dan y cynlluniau i gau rhai siopau, bydd y cwmni'n parhau i gyflogi tua 2,400 allan o weithlu o 3,800.
Yn ôl y gweinyddwyr KPMG, doedd dwy siop yn Llundain ac un yn Yr Alban ddim yn rhan o'r cytundeb a bydd 19 o staff y siopau hynny'n colli eu gwaith.
Dywedodd Chris Laverty, gweinyddwr cyswllt gyda KPMG: "O ystyried yr amodau anodd ar y stryd fawr, rydym yn hapus i gwblhau'r gwerthiant gyda Sun European.
"Mae'r cytundeb yn gam positif i sicrhau dyfodol Bonmarché."
Cafodd Bonmarché eu prynu gan gwmni Peacocks yn 2002.
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn trafod gyda gweinyddwyr Peacocks ac maent wedi addo gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi'r 249 aelod o staff ym mhencadlys y cwmni yng Nghaerdydd, sydd wedi colli'u swyddi.
'Parhau'n obeithiol'
Meddai'r Gweinidog Busnes, Edwina Hart AC: "Fel llywodraeth, rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r prif gyflogwr yma a'r gweithlu yn y cyfnod anodd hwn ac rydym yn parhau'n obeithiol y bydd modd achub cynifer o siopau a swyddi â phosib ar draws y DU."
Datgelodd Ms Hart ei bod wedi siarad â gweinidog cyllid y DU i amlinellu ei phryderon am y cwmni ar Ionawr 17.
Ychwanegodd hefyd bod swyddogion llywodraeth Cymru hefyd wedi cysylltu â phrif fenthycwyr ar lefel ranbarthol a chenedlaethol i sicrhau fod y goblygiadau i Gymru wedi'u hystyried.
"Fe wnaethon nhw barhau i drafod gyda phencadlys Peacocks yn ystod y cyfnod anodd hwn," meddai Ms Hart.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2012