Llofruddio: Dau ar fechnïaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn 20 a 30 oed gafodd eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Daethpwyd o hyd i Irene Lawless yn farw yn ei chartref ar Stad Bryndulais yn Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, brynhawn Llun.
Mae dyn 26 oed yn dal i gael eu holi ar amheuaeth ao lofruddiaeth
Dywedodd pobl leol ei bod hi'n fenyw "hoffus ac yn annibynnol".
'Mam gariadus'
Dywedodd ei mab Jason ei bod yn "fam a mam-gu gariadus" a'i bod hi'n "hoff o arddio, anifeiliaid a'i lluniau."
Ychwanegodd ei brawd hi, Phil, taw hi oedd "halen y ddaear a chwaer arbennig."
Mae'r teulu wedi dweud eu bod am gael amser i alaru.
Roedd Ms Lawless wedi bod yn byw yno am tua 20 mlynedd.
Mae plismyn arbenigol wedi bod yn cysuro a chefnogi'r teulu ond does dim manylion eto sut na pham y cafodd Ms Lawless ei llofruddio.
Mae plismyn wedi bod yn holi o ddrws i ddrws.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylai gysylltu gyda'r heddlu yn lleol ar 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2012