Cynigion ola' i brynu cwmni dillad Peacocks

  • Cyhoeddwyd
PeacocksFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd bron i 50 o brynwyr wedi dangos diddordeb yn y 48 awr cynta' wedi i Peacocks fynd i'r wal

Mae BBC Cymru yn deall bod yna chwe chynnig yn parhau i geisio prynu'r cwmni dillad Peacocks, sydd â'i bencadlys yng Nghaerdydd.

Dyw'r nifer ddim wedi newid ers dyddiad cau'r rownd gynta' o geisiadau'r wythnos ddiwetha'.

Dydd Llun yw'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau terfynol i'r gweinyddwyr KPMG.

Dywed KPMG fod dyled gyffredinol y grŵp yn £750m, tua'r un swm a gwerthiant cyffredinol y grŵp.

Mae Peacocks yn cyflogi tua 9,000 o bobl ar draws y DU, ond mae 249 o staff ym mhencadlys y cwmni yng Nghaerdydd wedi colli eu gwaith.

Mae gan y cwmni 563 o siopau a 48 o gonsesiynau.

Bydd y gweinyddwyr yn adolygu'r holl gynigion cyn gwneud penderfyniad terfynol ond does dim modd dweud faint o amser fydd hynny'n ei gymryd.

'Diddordeb enfawr'

Roedd un adroddiad papur newydd dros y Sul yn dweud bod y biliwnydd o Bacistan, Alshair Fiyaz, wedi gwneud un cynnig am ran o'r cwmni neu'r cwmni cyfan.

Ond doedd KPMG ddim am wneud sylw, dim ond dweud eu bod yn obeithiol o wneud cyhoeddiad pan fyddai 'na gynnig pendant yn cael ei ystyried.

Yn ôl y gweinyddwyr, roedd 'na ddiddordeb "enfawr" wedi bod yn Peacocks, gyda bron i 50 o brynwyr wedi dangos diddordeb yn y 48 awr cynta'.

Ond roedd y nifer wedi'i dorri lawr i hanner dwsin cynnig erbyn yr wythnos ddiwetha'.

Dyled sy'n cael y bai am gwymp Peacock - y cwmni mwya' i fynd i'r wal ers Woolworth - dyled sy'n deillio o 2006 pan wnaeth y rheolwyr brynu'r cwmni.

Roedd y tîm prynu, dan arweiniad prif weithredwr y cwmni Richard Kirk, wedi benthyg £460m.

Diswyddiadau

Roedd y benthyciadau wedi codi i £596m yng nghyfrifon swyddogol olaf y cwmni yn 2010, gyda'r ddyled gyffredinol yn £750m.

Cafodd Peacocks ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr fis diwetha' wedi i drafodaethau i geisio ailstrwythuro rhan o'r ddyled fethu.

Fis diwetha' cafodd siopau dillad Bonmarché, sy'n rhan o Grŵp Peacocks, ei brynu am swm anhysbys gan grŵp ariannol Sun European Partners.

Yn ôl Sun, a brynodd bob un o'r siopau heblaw am dair, byddan nhw'n cadw 230 ohonynt ond yn cau 160.

Gallai hynny olygu 1,400 o ddiswyddiadau ymhlith gweithlu o 3,800.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol