Llys: 'Cyd-ddigwyddiad' bod yn yr un lle â llofrudd

  • Cyhoeddwyd
Angelika Dries-JenkinsFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Angelika Dries-Jenkins yn byw ar ei phen ei hun

Mae llys wedi clywed mai "cyd-ddigwyddiad" oedd bod y diffynnydd, John William Mason, yn Hwlffordd yr un pryd â llofrudd pensiynwraig o Arberth, Sir Benfro.

Mae Mr Williams, 55 oed o bentref Llandysilio, wedi gwadu curo Angelika Dries-Jenkins i farwolaeth cyn dwyn ei char a defnyddio ei cherdyn banc yn Hwlffordd a Hendy-gwyn ar Daf.

Wrth gael ei groesholi, gwadodd iddo waredu siwmper oedd yn llawn gwaed mewn maes parcio yn Hwlffordd.

Yn ôl y diffynnydd, roedd yn gyd-ddigwyddiad ei fod yn y dref y pedair gwaith y ceisiodd y llofrudd ddefnyddio ei cherdyn banc i gael arian o beiriant twll yn y wal.

Yn Llys y Goron Abertawe yr erlynydd Patrick Harrington QC oedd yn ei groesholi.

DNA

Cafodd Ms Dries-Jenkins ei llofruddio yn ei chartref ar Fehefin 1 2011 ac roedd anafiadau difrifol i'w phen.

Atgoffodd Mr Harrington y diffynnydd fod olion ar y siwmper ac un mewn biliwn oedd y risg nad oedd y DNA wedi dod oddi wrthi hi.

Cafwyd hyd i'r siwmper mewn bin sbwriel.

Dywedodd yr erlynydd fod lluniau camera cylch cyfyng o'r diffynnydd yn gwisgo'r siwmper y tu allan i dafarn yn Arberth ar Fehefin 1 y llynedd.

Allweddi

Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw fe'i gwelwyd yn gwisgo dillad gwahanol yn y dref.

Dywedodd y diffynnydd fod ganddo siwmper debyg ond ei fod yn credu fod y dilledyn yn ei gartre' yn Llandysilio.

Gwadodd mai ef oedd yn berchen ar y siwmper yn y bin.

Cafwyd hyd i DNA Mr Mason ar allweddi car Ms Dries-Jenkins.

Dywedodd ei fod wedi cyffwrdd yn yr allweddi pan oedd yn sgyrsio gyda'r bensiynwraig tua phythefnos cyn ei llofruddiaeth.

Cytunodd y diffynnydd ei fod yn Hwlffordd pan lwyddodd y llofrudd i dynnu arian o'i chyfrif banc.

Dywedodd ei fod wedi teithio ar fws o Landysilio a bod yr arian wedi ei godi "o fewn munudau" wedi iddo gyrraedd y dref.

"Cyd-ddigwyddiad llwyr oedd hynny. Nid y fi wnaeth hyn," meddai.

Mae'r achos yn parhau.