Arweinydd Cyngor Merthyr: 'Gwasanaethau'n dioddef'

  • Cyhoeddwyd
Cynghorydd Brendan ToomeyFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Brendan Toomey yw arweinydd Cyngor Merthyr Tudful

Mae arweinydd Llafur Cyngor Merthyr Tudful wedi rhybuddio y bydd gwasanaethau rheng flaen yn "diodde'n ddifrifol" os na fydd mwy o gydweithio rhwng awdurdodau lleol.

Wythnos wedi iddo gymryd yr awenau dywedodd Brendan Toomey wrth raglen Dragon's Eye ar BBC Cymru y byddai rhaid dod o hyd i ffyrdd eraill wedi blynyddoedd o arbedion effeithlonrwydd.

"Roedd gwneud arbedion effeithlonrwydd o 3% hyd at 2008 yn ddigon anodd.

"Ond yn y sefyllfa bresennol rwy'n rhoi'r gorau i ddefnyddio'r term arbedion effeithlonrwydd ac yn eu galw nhw'n doriadau oherwydd dyna'n gymwys yr ydyn nhw.

"Os bydd awdurdodau lleol yn parhau i fynd i'r cyfeiriad presennol - ar eu pennau eu hunain - fe fydd gwasanaethau rheng flaen yn dioddef yn y pen draw, a diodde'n ddifrifol."

'Angen gwrando'

Yn ei gyfweliad cyntaf ers iddo gael ei ethol yn arweinydd, dywedodd fod rhaid i Lywodraeth Cymru wrando'n fwy gofalus ar farn cynghorau dan reolaeth Llafur, cynghorau ddylai gael llais cryfach o fewn y blaid yng Nghymru.

"Po fwyaf yw cryfder llywodraeth leol, yna mae mwy o angen i Lywodraeth Cymru wrando ar y cynghorau lleol.

"Yn amlwg, ar hyn o bryd am fod Llafur yn rheoli'r rhan fwyaf o'r de-ddwyrain bydd rhaid i'r Cynulliad gymryd sylw o hynny."

Ond mae cyn arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a gollodd ei sedd yn yr etholiad wythnos yn ôl wedi dweud y gallai bod mewn grym ar lefel llywodraeth leol ac ym Mae Caerdydd arwain at drafferthion.

Gofalus

Dywedodd Russell Roberts y byddai rhaid i Lafur fod yn ofalus o'u perfformiad dros y ddwy flynedd nesaf gan fod cyllidebau mor brin.

"Bydd rhaid cyfyngu'n ariannol ar lywodraeth leol dros y blynyddoedd nesaf ac fe fydd yn anoddach nag y mae ar hyn o bryd.

"A bydd delio gyda hynny yn waddol i Lafur wrth iddyn nhw fynd i mewn i'r etholiad nesaf, etholiad y mae'n rhaid iddyn nhw ei hennill.

"I'r perwyl hwnnw, fe fydd angen iddyn nhw fod yn ofalus a chall iawn wrth lunio polisïau ac wrth ddelio gyda chyllidebau llywodraeth leol."