Cynhadledd yn trafod atal clefyd
- Cyhoeddwyd
Mae cynhadledd Ewropeaidd sy'n trafod atal clefyd y siwgr a gofalu am gleifion wedi dechrau ddydd Sadwrn.
Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe sy'n cynnal y gynhadledd dridiau yng Ngwesty'r Village yn y ddinas.
Bydd cynadleddwyr yn cyflwyno manylion eu hymchwil, rhai o Pittsburgh, UDA, a'r Eidal yn cyfeirio at Glefyd Siwgr Math 1 a chynrychiolwyr o Gaergrawnt yn cyfeirio at Fath 2.
Yn y cyfamser, mae'r Coleg Meddygaeth wedi rhoi bwrsariaeth i Brittni Frederiksen o'r UDA sy'n ymchwilio i blant sy'n datblygu Math 1.
Mae pynciau trafod y gynhadledd yn cynnwys beichiogrwydd a'r clefyd, ffordd o fyw, rhagweld y clefyd ac atal cymhlethdodau tymor hir.
Adroddiad Plant
Hefyd mae Adroddiad Plant yn cael ei lansio, crynodeb o ganfyddiadau arolwg iechyd yn ne Cymru, a ysgrifennwyd gan y plant eu hunain.
Un canfyddiad yw bod plant ysgol yn fwy gweithgar os yw eu rhieni'n chwarae gyda nhw tra eu bod yn fabanod ac un arall yw mai agweddau at blant yn eu harddegau yw'r prif rwystr i weithgarwch corfforol.
Mae argymhellion y plant wedi arwain at grant Cymdeithas Feddygol Prydain fydd yn galluogi plant i ddatblygu gweithgarwch corfforol.
Argymhellion
Ddydd Sadwrn mae'r plant yn trafod eu canfyddiadau a'u hargymhellion i wella gweithgarwch.
Mae elusen Diabetes UK Cymru wedi honni bod 80% o'r £9.8 biliwn sy'n cael ei wario'n flynyddol ar y clefyd yng ngwledydd Prydain yn ymateb i gymhlethdodau.
Dywedodd y byddai 17% o holl gyllid y Gwasanaeth Iechyd yn cael ei wario ar y clefyd erbyn 2035.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2011