Adroddiad addysg: Cyfle i bontio'r 'bwlch tlodi'

  • Cyhoeddwyd
Seremoni raddio
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn awgrymu beth y gellir ei wneud i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a chyflawniad addysgol

Mae gan Gymru gyfle euraidd i feithrin dull newydd a chyfannol sy'n uno ysgolion, rhieni a chymunedau er mwyn pontio'r "bwlch tlodi" mewn addysg, yn ôl adroddiad elusen.

Honnodd Achub y Plant fod cysylltiad cryf a chynyddol rhwng tlodi a lefelau cyrhaeddiad addysgol isel yng Nghymru.

Erbyn eu bod yn dair oed gall cyraeddiadau plant o gefndir difreintiedig fod hyd at flwyddyn ar ei hôl hi o'u cymharu â rhai o deuluoedd mwy breintiedig, meddai'r adroddiad.

Ychwanegodd yr adroddiad y gallai'r bwlch ymestyn yn ystod y blynyddoedd wedyn.

Erbyn 15 oed pan fo'r bobl ifanc yn barod i sefyll eu harholiadau Prydeinig cyntaf, mae'r rhai sydd yn byw mewn tlodi 2.5 gwaith yn llai tebygol o gael graddau da yn eu TGAU.

Cyflawniad addysgol

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi lleihau'r bwlch tlodi fel un o'i tair blaenoriaeth genedlaethol ar gyfer addysg ac wedi cyflwyno arian grant sylweddol fel y Grant Amddifadedd Disgyblion.

Yng Nghaerdydd mae £4m wedi ei neilltuo ar gyfer y grant tra bydd ysgolion Abertawe yn rhannu cyfanswm o £2.6m, ysgolion Wrecsam yn rhannu £1.3m a rhai Caerffili £2.5m.

Yn y gogledd bydd ardaloedd fel Conwy a Gwynedd yn derbyn hwb o £1m yr un.

Awdur yr adroddiad, Cymunedau, Teuluoedd ac Ysgolion yw'r Athro David Egan sy'n awgrymu beth y gellir ei wneud i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a chyflawniad addysgol.

Y prif argymhellion yw:

  • Y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu model o fewn y Strategaeth Mynd i'r Afael â Thlodi Plant o sut y gall ysgolion, rhieni a chymunedau, gyda'i gilydd, leihau effaith tlodi ar gyflawniad addysgol;

  • Y dylai Consortia Addysg Awdurdodau Lleol sicrhau bod lleihau'r bwlch tlodi mewn addysg yn un o'u prif flaenoriaethau fel rhan o'u gwaith gydag ysgolion, gan gynnwys hyn yn eu strwythurau arweinyddiaeth;

  • Y dylai ysgolion sefydlu cynllun strategol sy'n dangos sut y byddan nhw'n defnyddio'r adnoddau ar gael i leihau'r bwlch tlodi sy'n ymwneud â chyflawniad myfyrwyr.

Dywedodd Yr Athro Egan: "Mae Llywodraeth Cymru yn llygad ei lle wrth nodi mai gwella safon llythrennedd a rhifedd a lleihau effaith tlodi yw'r ffyrdd gorau i wella perfformiad addysgol yng Nghymru.

'Strategaeth'

"Mae'r adroddiad yn defnyddio ystod o dystiolaeth, gan gynnwys profiadau dros 100 o ysgolion yng Nghymru, i gyflwyno'r ffordd ymlaen yn y meysydd hyn sy'n golygu bod ysgolion, teuluoedd a chymunedau yn rhan o strategaeth gyfannol."

Dywedodd yr elusen eu bod yn anelu at gau'r bwlch cyrhaeddiad drwy gynnal rhaglen addysgol yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y DU er mwyn cefnogi rhieni i greu partneriaeth gydag ysgolion ac o fewn eu cymuned fel y bydd plant yn ffynnu yn yr ysgol.

Mae'r prosiect Teuluoedd ac Ysgolion Ynghyd wedi ei gynnal yn awdurdodau lleol Caerffili, Caerdydd a RhCT ac mae bwriad i'w gynnal mewn ardaloedd eraill.

Dywedodd James Pritchard, Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru: "Gall cynlluniau fel Teuluoedd ac Ysgolion Ynghyd Achub y Plant fod yn rhan o'r ateb.

"Mae ein model yn dod â rhieni, plant, y gymuned a staff yr ysgolion at ei gilydd i gydweithio ar ddatblygu sgiliau dysgu ac ymdopi i'r plant yn ystod eu misoedd cyntaf yn yr ysgol gynradd ac mae tystiolaeth yn dangos fod hyn yn gallu cael effaith bositif ar les y teulu a pherfformiad y plentyn yn yr ysgol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol