'Treblu' costau gofal o dan y lach

  • Cyhoeddwyd

Mae cynghorydd wedi beirniadu penderfyniad cyngor i ddileu talu cymhorthdal ar gyfer taliadau gofal dydd.

Yn ôl y Cynghorydd Brian Blakeley, mae cost gofal i bensiynwyr yn Sir Ddinbych wedi treblu fel bod rhai'n gorfod talu hyd at £50 y diwrnod.

Dywedodd y cyngor eu bod wedi rhybuddio defnyddwyr y gwasanaeth ynglŷn â'r costau flwyddyn yn ôl.

Ychwanegodd y cyngor fod pobl oedd wedi dechrau defnyddio'r gwasanaeth yn ystod y 12 mis diwethaf eisoes yn talu'r costau uwch.

'Gofyn cwestiynau'

Dywedodd Mr Blakeley fod y penderfyniad yn "warthus".

"Mae adran gwasanaethau cymdeithasol y cyngor wedi dileu'r cymhorthdal ers dydd Mercher," meddai.

"Rhaid i gynghorwyr Sir Ddinbych ofyn cwestiynau am y newidiadau hyn.

"Dylen ni gefnogi ein defnyddwyr gofal dydd nid eu condemnio i fywyd o unigrwydd."

Yn ôl Mr Blakeley, mae cost hanner diwrnod o ofal dydd yng Nghanolfan Ddydd Hafan Deg, Y Rhyl, wedi codi o £8.11 i £23.35 - a chost diwrnod llawn wedi codi o £16.22 i £46.70.

Hysbysu

"Mae rhai o'r defnyddwyr sy'n derbyn gofal dydd yn Hafan Deg wedi dweud wrthyf nad ydyn nhw'n gallu fforddio'r taliadau," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor sir Ddinbych fod pob defnyddiwr gofal dydd wedi eu hysbysu y gallen nhw gael ail-asesiad ariannol o ran pa lefel tâl, hyd at y tâl eithaf o £50, fyddai'n addas.

"Rydym yn cynnig cefnogaeth i unrhywun sy'n poeni am ei allu i dalu'r costau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol