Craig Bellamy yn aelod o garfan Prydain yn y Gemau Olympaidd
- Cyhoeddwyd
Mae Craig Bellamy wedi datgelu mewn papur newydd y bydd yn aelod o garfan Team GB pêl-droed y Gemau Olympaidd.
Roedd Bellamy, 32 oed, yn cael ei weld fel un o'r ffefrynnau i gipio lle yn y garfan fel un o'r tri chwaraewr dros 23 oed sy'n cael eu caniatáu ynghyd â Ryan Giggs a David Beckham.
Dywedodd Bellamy wrth bapur newydd y Sun: "Rydw i yn y garfan Olympaidd - ond roeddwn i fod i gadw'r peth yn dawel.
"Mae her wahanol. Rwyf wedi cael tymor anodd gyda Lerpwl, ond mae'r Gemau Olympaidd yn achlysur unigryw."
Mae presenoldeb chwaraewyr o Gymru - ynghyd â'r Alban a Gogledd Iwerddon - yn y garfan wedi bod yn destun dadlau tanbaid, gyda Chymdeithasau Pêl-droed y gwledydd hynny yn mynegi anfodlonrwydd gyda'r sefyllfa.
Pryder y cymdeithasau yw y bydd Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn colli eu statws fel gwledydd annibynnol o fewn FIFA - corff rheoli pêl-droed y byd - os fyddan nhw'n cytuno i fod yn rhan o dîm Prydeinig.
Eisoes mae Gareth Bale ac Aaron Ramsey, capten Cymru, wedi cael tynnu eu llun yn gwisgo crys cefnogwyr Team GB, er bod y ddau wedi mynnu ers hynny na fyddan nhw'n gwneud dim i beryglu statws y tîm cenedlaethol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2011