Allforion: Cynnig atebion i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae corff masnachu rhyngwladol wedi ceisio cynnig rhesymau am berfformiad gwael Cymru wrth allforio, ynghyd a chynnig atebion posib i'r broblem.
Dywed Cyngor Busnes Rhyngwladol Cymru (WIBC) bod ffigyrau allforion diweddar yn dangos bod gwerth allforion Cymru wedi disgyn i'r gwaethaf yn nhermau canran o unrhyw wlad neu ardal o fewn y DU.
Dywedodd cadeirydd WIBC, Byron Davies, bod Cymru'n ddibynnol ar bedwar diwydiant am dros 80% o allforion :-
Ynni - 30%;
Peirianneg - 29%;
Metelau - 13%;
Cemegau - 8%.
Tri eglurhad
"Yn ffodus," medd Mr Davies, "mae dadansoddwyr yn rhagweld y bydd y sectorau yma'n parhau i dyfu dros y blynyddoedd nesaf, ond ni ddylai hyn guddio'r ffaith ein bod fel gwlad yn canolbwyntio ar ystod gyfyng o ddiwydiannau sy'n cael eu rheoli gan gwmnïau mawr fel Tata, Airbus a Dow Corning.
"Yn fras mae tri eglurhad posib am ddirywiad perfformiad Cymru: efallai ein bod yn gwerthu'r cynnyrch anghywir, efallai ein bod yn gwerthu i'r marchnadoedd anghywir neu efallai ein bod yn llai cystadleuol oherwydd newidiadau i'n cynhyrchedd cymharol.
"Mae ein hallforion yn bennaf i wledydd sydd ag economïau aeddfed sy'n tyfu'n araf, yn enwedig yr Unol Daleithiau, yn hytrach nag economïau newydd sy'n tyfu'n gyflym.
"Mae hyn yn fwy gwir ers dechrau'r dirwasgiad. Mae twf allforion yn waeth na'r cyfartaledd byd-eang, ac mae'r pwyslais ar farchnadoedd yr Unol Daleithiau ar draul marchnadoedd cyflym newydd yn gyfrifol bron yn llwyr am golled Cymru o'u rhan o'r farchnad fyd-eang dros sawl blwyddyn.
"I'r gwrthwyneb mae nifer o wledydd wedi bod yn fwy llwyddiannus wrth fanteisio ar y cyfleoedd anferth a ddaw gan farchnadoedd newydd yn gyffredinol a China yn arbennig."
Teithiau masnach
Roedd Mr Davies yn pwysleisio mai'r Unol Daleithiau yw economi fwya'r byd o hyd, ond nid yn un sy'n tyfu'n gyflym bellach.
"Yn China ac India, mae nifer sy'n cyfateb i boblogaeth gyfan Canada yn cael eu cartrefi bob 18 mis, ac mae dosbarth canol newydd yn cael ei greu yno sy'n tyfu o 70 miliwn o bobl bob blwyddyn," ychwanegodd Russel Lawson, cyfarwyddwr WIBC.
"Dyma lle y dylai Cymru fod yn edrych ar gyfer tŵf allforion.
"Er mwyn manteisio ar y marchnadoedd hyn, rhaid i ni ail-ganolbwyntio, ail-hyfforddi ac ail-offeru."
Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi bod ar deithiau masnach i'r dwyrain pell mewn ymgais i feithrin cysylltiadau busnes gydag ardaloedd yno.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2012