'Dim digon o arian' i wella adeiladau Cyngor Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae wedi dod i'r amlwg y gallai Cyngor Sir Ynys Môn wynebu costau o £18m wrth drwsio adeiladau'r cyngor.
Dywedodd pennaeth eiddo'r awdurdod eu bod ar fin cyrraedd sefyllfa "lle na ellir fforddio cynnal yr adeiladau".
Mae angen i'r cyngor wario £12.7m ar ysgolion a £5m ar atgyweirio brys oherwydd gogynion iechyd a diogelwch.
Ond mae'r adroddiad, oedd yn cael ei drafod ddydd Llun, yn dweud mai £740,000 sydd wedi ei glustnodi ar gyfer trwsio ysgolion eleni.
Mae'r adroddiad yn codi pryderon na fydd y cyllid wrth gefn yn ddigon i sicrhau "na fydd rhaid cau ysgolion oherwydd materion iechyd a diogelwch".
'Llai na hanner'
Ers 2009 mae costau gwelliannau wedi codi £2 miliwn, yn ôl adroddiad Mike Barton.
"Llai na hanner y gwaith cynnal a chadw angenrheidiol fydd yn cael ei orffen dros y pum mlynedd nesa'," meddai.
"Bydd adeiladau'r cyngor yn dirywio, gan beryglu dyfodol gwasanaethau cyhoeddus."
Comisiynwyr Ynys Môn, a gafodd eu penodi gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2011 i redeg y cyngor, oedd yn ystyried yr adroddiad.
Mae disgwyl i uwchdîm rheoli eu holynu ym mis Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd9 Mai 2012
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2011