Tasglu i ystyried sut mae modd moderneiddio'r Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd
Maes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy yn 2010Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Newidiwyd y pafiliwn yn binc am y tro cynta' yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006

Cyhoeddodd Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, ei fod yn bwriadu sefydlu tasglu i ystyried sut y gellid moderneiddio'r Eisteddfod Genedlaethol.

Cyhoeddodd Mr Andrews adeg y Brifwyl ym Mro Morgannwg ym mis Awst y gallai'r Eisteddfod gael rhagor o arian petai nhw'n cyflwyno newidiadau.

Awgrymodd y byddai'n hoffi i'r Brifwyl wneud mwy i ddenu pobl ddi-Gymraeg ac i gynnig profiad gwell i ymwelwyr.

Ni fydd cylch gwaith y grŵp yn cynnwys trafodaeth ar newid rheol Gymraeg yr Eisteddfod.

Ddydd Mawrth cyhoeddodd y gweinidog fod 12 o bobl o gefndiroedd amrywiol wedi'u dewis ar gyfer y tasglu.

Safleoedd parhaol?

Yn ôl y Gweinidog, bydd y grŵp yn ystyried manteision ac anfanteision symud yr Eisteddfod rhwng y de a'r gogledd pob blwyddyn - ac a ddylid dewis safleoedd parhaol ar gyfer y Brifwyl.

Un model posib fyddai cael un safle yn y gogledd a'r llall yn y gorllewin, a theithio rhwng y de a'r gogledd am yn ail ar gyfer y ddwy flynedd arall.

Bydd y grŵp hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o ddiwygio'r model presennol o gael Pwyllgor Gwaith a'r Llys i drefnu'r wythnos.

Er enghraifft, byddan nhw'n gofyn a ellid trefnu wythnos yr Eisteddfod ar wahân i'r cystadlaethau er mwyn gwella profiad ymwelwyr ac atyniad yr Eisteddfod?

Yn ogystal, byddan nhw'n ystyried sut y gellir hyrwyddo'r Brifwyl yn well ar blatfform digidol ac ar y cyfryngau, ac yn ystyried sut i apelio i gynulleidfaoedd newydd, gan gynnwys pobl o gefndiroedd di-Gymraeg.

Bydd materion cyllid hefyd yn cael sylw.

Medi 2013

Bydd y tasglu'n derbyn tystiolaeth gan nifer o sefydliadau, gan gynnwys darlledwyr, yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Urdd.

Mae disgwyl iddynt adrodd yn ôl i'r Gweinidog erbyn mis Medi 2013.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad am y tasglu, dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol:

"Rydym yn croesawu awydd y Gweinidog i drafod ac i edrych ar yr Eisteddfod Genedlaethol dros y misoedd nesaf.

"Mae nifer o drafodaethau wedi bod dros y blynyddoedd, ac mae'r math o gwestiynau a gyhoeddwyd heddiw yn rhai sydd wedi'u gofyn amryw o weithiau dros y blynyddoedd diwethaf.

"Rydym yn falch y bydd gan bobl a sefydliadau, gan gynnwys yr Eisteddfod ei hun, gyfle i leisio a mynegi barn yn ystod y broses, ac edrychwn ymlaen i fod yn rhan o waith y pwyllgor dros y misoedd nesaf."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol