Dal i chwilio am April dros y penwythnos
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n dal i chwilio am April Jones dros y penwythnos.
Diflannodd y ferch bump oed o Fachynlleth ar Hydref 1 ac mae cronfa sefydlwyd yn ei henw wedi codi bron £20,000.
Dydd Sul roedd taith arbennig rhwng Cross Hands ac Aberystwyth yn codi arian.
Mae Mark Bridger, y dyn 46 oed ar gyhuddiad o'i llofruddio, yn y ddalfa tan Ionawr 11.
"Dros y penwythnos rydyn ni'n chwilio mannau penodol ym Machynlleth a'r cyffiniau," meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
"Mae'r ardal yn fawr ac angen llawer o adnoddau.
"Wrth i ni ddilyn ein cynllun manwl, bydd y chwilio'n dod i ben mewn mannau arbennig.
"Mae ein chwilio yng nghanol y dre' bron wedi dod i ben ond mae 'na lawer i'w wneud y tu allan i'r ardal hon."
'Fforensig'
Dywedodd fod lefel y chwilio gymaint ag a welwyd yr wythnos diwetha'.
"Mae angen chwilio fforensig mewn nifer o ardaloedd a lleoliadau."
Byddai un person, meddai, yn cymryd 8.9 mlynedd i wneud ei waith yn yr ardal gafodd ei chwilio yr wythnos diwetha'.
"Mae timau arbenigol o'r pedair gwlad yn ein helpu ni a bydd hyn yn para tra byddwn ni'n dilyn sawl trywydd."
Dydd Sul casglodd 30 o faniau gwersylla â rhubanau pinc arnyn nhw arian ar gyfer y gronfa cyn rhyddhau balŵns ar y prom yn Aberystwyth.
'Codi ymwybyddiaeth'
Dywedodd Jason Young o Landeilo cyn y daith: "Mae nifer ohonon ni eisie codi arian a chodi ymwybyddiaeth am April.
"Mae'r achos hwn yn agos iawn at 'y nghalon.
"Dwi ddim yn gwbod beth wnelen i 'se rhywbeth yn digwydd i 'mhlant i."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2012